Rhwystredig. Dyna’r gair fyddwn i’n ei ddefnyddio i ddisgrifio’r profiad o geisio trefnu gigs yn ystod y pandemig. Dau fis cyn dechrau’r holl lanast, fe wnes i gynnal Gŵyl Neithiwr ar y cyd â Pontio ym Mangor. Ymdrech oedd hyn i ddod â bandiau gorau Cymru (yn fy marn i!) ynghyd mewn un digwyddiad, a hynny yn y gogledd! Yn ogystal â 10 band, roedd pedwar DJ a chafwyd arddangosfa gelf gan fy ffrind annwyl Llinos Owen. Bu’r digwyddiad yn llwyddiant a chytunais â Pontio i’w gynnal yn flynyddol.
Ers hynny, dw i wedi ceisio trefnu pedwar digwyddiad gwahanol – ond dim ond un o’r rhain sydd wedi dwyn ffrwyth. Yn wir, roedd y gig cyntaf y bu’n rhaid ei ohirio i fod i ddigwydd yng Nghlwb Ifor Bach ar 18 Mawrth 2020, sef diwrnod cyhoeddi’r clo mawr. Bryd hynny, y sôn oedd mai dim ond am ychydig fisoedd y bydden ni dan glo, felly penderfynwyd gohirio’r gig tan fis Hydref – little did we know!
Erbyn mis Hydref, roedd hi’n amlwg nad oedd Covid-19 yn mynd i unman, a fod dim gobaith o gynnal y gig. Canslo oedd y penderfyniad y tro hwn, doeddwn i ddim yn gweld pwynt gohirio a gosod dyddiad newydd a minnau heb unrhyw syniad pryd y byddai pethau’n gwella.
Bues i a Pontio yn sôn am drefnu Gŵyl Neithiwr 2 ryw ben yn ystod haf 2021 – breuddwyd gwrach! Erbyn hyn roeddwn i’n teimlo’n hynod rwystredig ac yn poeni ’mod i’n mynd i fod yn hen ddyn cyn i mi gael trefnu gig arall.
Fe wnes i chwarae â’r syniad o gynnal gig ar-lein, ond penderfynais yn erbyn hynny yn y diwedd. Dydi gigs dros y we yn dda i ddim byd cyn belled ag ydw i yn y cwestiwn, ac er i mi diwnio i mewn i ambell un yn ystod y cyfnod clo, ches i ddim llawer o flas ar yr un ohonynt. Roedd hyn yn dipyn o syndod gan fod pobol sy’n clebran yn ddiddiwedd mewn gigs byw yn un peth sy’n dân ar fy nghroen – digwyddiad cerddorol ydi gig, nid cyfarfod Merched y Wawr! Ewch i sgwrsio ar ôl y gig wir Dduw! Felly roedd y syniad o gael eistedd gyda photel o win heb neb i amharu ar y gerddoriaeth yn apelio. Ond na, doedd o ddim i mi, doedd yr egni yna ti’n ei deimlo mewn gig ddim yn treiddio drwy sgrin fy nghyfrifiadur a dw i’m yn meddwl fy mod wedi eistedd drwy set gyfan unwaith. Felly roedd yn rhaid bod yn amyneddgar, a disgwyl nes bod modd cynnal rhywbeth yn y cnawd!
Llygedyn o obaith
Daeth llygedyn o obaith tuag at ddiwedd 2021 wrth i gigs byw ddychwelyd a bues i mewn sawl un da. Roedd gig lansio albym Papur Wal – ‘Amser Mynd Adra’ – yn uchafbwynt, a nes i fwynhau gig am ddim yn Porter’s, Caerdydd, lle’r oedd Bratislava 88, Hyll a HMS Morris yn perfformio. Llwyddais innau i gynnal gig yn nhafarn y Flora yn Cathays, Caerdydd. Yn perfformio roedd Hap a Damwain, Twmffat a fy mand i, 3 Hŵr Doeth. Roedd y gig yn cael ei gynnal ar yr un diwrnod â rali ‘Hawl i Fyw Adra’ ym Mae Caerdydd a’r criw fynychodd y rali oedd y rhan fwyaf o’r bobol ddaeth i’r gig – torf egnïol, a dweud y lleiaf! Roedd Cymru yn herio Bwlgaria’r un noson, ac fe enillon nhw o bum gôl i un felly roedd pawb mewn hwyliau da. Yn dilyn llwyddiant y noson honno, er gwaethaf ychydig o anhawster â’r system PA, roeddwn i’n teimlo ’mod i in the clear ac i ffwrdd â fi i fwcio bandiau ar gyfer Gŵyl Neithiwr 2, fyddai’n digwydd flwyddyn yn hwyr ar 22 Ionawr 2022. Roeddwn yn hapus gyda’r line-up, er nad oedd pob band yr oeddwn i eisiau ei fwcio ar gael. Yn ogystal â naw o fandiau, roeddwn wedi bwcio dau DJ ac roedd Llinos Owen wedi cytuno i greu arddangosfa gelf eto. Dechreuodd y tocynnau werthu ac roedd pobol i weld wedi cyffroi ar gyfer yr ŵyl.
Omicron, tôn gron!
Ond fel rhyw yncl dwyt ti ddim yn rhy keen arno mewn parti teuluol, ymddangosodd Omicron. Ff** sake, meddyliais. Erbyn hyn roeddwn yn hen law ar ohirio gigs ac wrth i nifer yr achosion gynyddu, roedd y pwysau arnaf i ohirio a gosod dyddiad newydd hefyd yn cynyddu. Pan ddaeth cyfyngiadau newydd Llywodraeth Cymru i rym ar Ddydd San Steffan, gwyddwn fod dim dewis ond gohirio. Mae gohirio gŵyl o’r maint yna yn creu llawer o broblemau. Y broblem fwyaf un ydi argaeledd bandiau ac yn wir, wedi i mi osod dyddiad newydd, 18 Mehefin, daeth dau fand ataf i ddweud nad oedden nhw ar gael. Hyd yma, dw i wedi llwyddo i lenwi slot un ohonynt, ond yn dal i chwilio am un band arall. Oes unrhyw un awydd set?!
Ia, rhwystredig ydi’r gair fyddwn i’n ei ddefnyddio i ddisgrifio’r profiad o geisio trefnu gigs yn ystod y pandemig, ond dw i wedi sylwi pa mor bwysig ydi dyfalbarhau ac mae gennyf barch mawr at y sefydliadau, y bandiau a’r unigolion sydd wedi llwyddo i ddarparu adloniant cerddorol ar ei newydd wedd ers mis Mawrth 2020.
Ta waeth, dyna ddigon o barablu. Efo lwc, fe welaf i chi yng Ngŵyl Neithiwr ym mis Mehefin… neu ddim. Pwy a ŵyr?!