Bydd cynulleidfa gŵyl gerddoriaeth ym Mangor yn cael eu swyno gan gerdd dant ymhen mis, ond nid y math traddodiadol.

Mae’r cyfansoddwr adnabyddus Guto Puw wedi mynd ati i greu darn o gerddoriaeth ar gyfer y rheiny sydd â dant melys, gan gymryd ysbrydoliaeth o sŵn nodedig ‘popping candy’.

Bydd y cyfansoddiad yn un o wyth darn sydd wedi eu paratoi gan y cyfansoddwr, a byddan nhw’n cael eu perfformio yn ystod Gŵyl Gerdd Bangor y mis nesaf.

Cafodd y darnau, sy’n cyflwyno “byd o fizz a hwyl” i gynulleidfaoedd, eu comisiynu gan ensemble cerddorol UPROAR, a fydd hefyd yn perfformio yn yr ŵyl.

Cerddoriaeth ‘pop’

Math o felysion yw ‘popping candy’, sy’n gwneud synnau popio wrth gael eu bwyta, wrth iddyn nhw adweithio gyda dŵr yn y geg.

Yn ôl Guto Puw, maen nhw’n achosi teimlad pleserus pan maen nhw’n cael eu cyfuno â siocled.

“Thema’r Ŵyl eleni yw ‘y synhwyrau’,” meddai.

“Wrth gwrs, mae cerddoriaeth yn brofiad clywedol ond dim ond un o’r synhwyrau yw hynny, ac felly mae gennym gyffwrdd, blasu, gweld ac arogli i’w cynnwys hefyd.

“Bydd yn ddiddorol iawn datgelu sut mae’r cyfansoddwyr wedi adweithio i’r synhwyrau eraill o fewn eu cerddoriaeth, felly dewch draw i’w blasu nhw!”

Gŵyl hybrid

Mae’r Ŵyl, sy’n cael ei chynnal eleni yng Nghanolfan Gelfyddydol Pontio ar 11-12 o Chwefror, wedi bod yn uchafbwynt celfyddydol yng nghalendr dinas Bangor am dros ugain mlynedd.

Dywed Guto Puw ei fod yn ffyddiog y bydd yr Ŵyl yn rhedeg ar ffurf ‘hybrid’, gyda modd i’r rheiny sydd ddim yn gallu mynychu ffrydio digwyddiadau’n fyw ar blatfformau digidol.

“Roedd llynedd yn ddigwyddiad rhithwir ac er y pandemig roedd yn llwyddiannus iawn,” meddai.

“Fe gathon ni bobl yn gwylio’r perfformiadau ar draws y byd. Roeddent yn amrywio o’r Unol Daleithiau a Chanada i’r Dwyrain Pell yn Tsieina a Gwlad Thai yn ogystal â gwledydd Ewropeaidd a’r gwledydd cartref.

“Gyda’r prif gyngherddau yn cael ei ffrydio ar lein, rydym yn gobeithio adeiladu ar y llwyddiant gawsom y llynedd,” dywedodd Guto.

Bydd uchafbwyntiau o’r Ŵyl eleni yn cael ei ddarlledu yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn ar raglen New Music Show ar BBC Radio 3.

“Dyma’r tro cyntaf ers sawl blwyddyn i ni gael presenoldeb ar Radio 3, a fydd yn sicr yn cynyddu proffil ac apêl y digwyddiad cyffrous a phwysig hwn,” ychwanegodd Guto.

‘Profiadau bythgofiadwy’

Ymhlith y perfformwyr eleni fydd UPROAR, ensemble a gafodd ei sefydlu yn 2018 gyda’r nod o ddod â’r gerddoriaeth ryngwladol gyfoes orau i gynulleidfaoedd ar hyd a lled y wlad.

“Mae perfformiadau UPROAR wedi eu hanelu at gynulleidfaoedd sydd yn ffafrio elfennau gweledol, yn aml yn perfformio mewn lleoliadau ysbrydoledig ac anarferol,” meddai Guto.

Ensemble UPROAR

“Mae eu cydweithio amlgyfryngol gyda dawns, theatr, ffilm, y celfyddydau gweledol, fideo ac electroneg byw yn gwthio ffiniau’r ffurfiau hyn, gan ddarparu profiadau bythgofiadwy.”

Yn ogystal â gwaith Guto, mae UPROAR hefyd wedi comisiynu’r gyfansoddwraig o’r Iseldiroedd, Carlijn Metselaar a’r cyfansoddwr Cymreig Joseph Davies i greu darnau i gael eu perfformio yn yr ŵyl.

Gallwch weld rhaglen yr ŵyl yn llawn ar-lein.