Mae trefnwyr Gŵyl Ffilm LGBT+ Gwobr Iris wedi cyhoeddi manylion Cronfa Cyllid Ffilm Ddogfen newydd Gwobr Iris sydd wedi’i noddi gan FROOT a Phrifysgol Aberystwyth.
Bydd cyfanswm o £60,000 yn cefnogi tair ffilm ddogfen, gyda chais blynyddol am syniadau gan wneuthurwyr ffilmiau bob mis Ionawr.
Diben y gronfa yw cefnogi gwneuthurwyr ffilmiau dogfen yng ngwledydd Prydain – gyda phwyslais arbennig ar grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Mae’r broses ymgeisio bellach ar agor a bydd yn cael ei rhedeg gan Wobr Iris, a fydd yn goruchwylio’r gwaith o dderbyn a llunio rhestr fer o’r cyflwyniadau i’r Gronfa.
Bydd Tîm Gwobr Iris yn cael ei arwain gan Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr yr Ŵyl, ac Angela Clarke, gwneuthurwr ffilmiau dogfen sydd wedi’u henwebu am wobrau BAFTA.
‘Ymrwymiad mawr’
“Mae hwn yn ymrwymiad mawr i gefnogi datblygiad gwneud ffilmiau LGBT+ yn y DU,” meddai Berwyn Rowlands.
“Mae’r bartneriaeth hon yn caniatáu i’r rhaglenni dogfen gael eu gweld gan gynulleidfa fyd-eang diolch i’r rhwydwaith helaeth o OUTtv Media Group Inc sy’n cynnwys FROOT.
“Mae’r gefnogaeth gan Brifysgol Aberystwyth yn ymrwymiad ariannol i’w groesawu yn y ffilmiau unigol ond mae hefyd yn gyfle gwych i wneuthurwyr ffilmiau gael gafael ar y cyfoeth o gymorth sydd ar gael gan y Brifysgol.
“Rydym wrth ein bodd y bydd y gronfa hon, a ychwanegwyd at ein hymrwymiadau presennol drwy Wobr Iris, Best British Short Supported by Film4, yn gweld mwy o gynnwys yn cael ei greu a’i rannu gyda chynulleidfa fyd-eang.”
Dywed yr Athro Elizabeth T. Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, fod y brifysgol “yn falch iawn o gefnogi’r fenter newydd gyffrous hon gan Wobr Iris, a fydd yn caniatáu i grwpiau amrywiol a heb gynrychiolaeth ddigonol leisio’u barn ym myd gwneud ffilmiau”.
‘Cyfnod heriol’
“Mae hwn yn gyfle gwych i wneuthurwyr ffilmiau dogfen o Brydain sydd â straeon LGBT+ i’w rhannu,” meddai Angela Clarke.
“Fel gwneuthurwr ffilmiau sydd wedi bod yn ymwneud â Gwobr Iris, rwy’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Berwyn a’r tîm ar y fenter gyffrous hon ac, yn methu aros i weld pa syniadau sy’n cael eu cyflwyno.
“Mae’n gyfnod heriol i’r diwydiant creadigol ar hyn o bryd, felly mae’n wych gallu bod yn rhan o rywbeth a fydd yn helpu’r gwneuthurwyr ffilmiau yn y sector i ffynnu.”