Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn llwyfannu sioe gerdd gomedi wreiddiol i nodi 10 mlwyddiant ers eu cynhyrchiad gwreiddiol cyntaf.

Mae Anthem, a fydd yn cael ei pherfformio yn y ganolfan ymhen ychydig dros ddeufis, yn adrodd hanes rownd derfynol cystadleuaeth ganu ffuglennol.

Wrth i’r gystadleuaeth ddechrau poethi, bydd y sioe yn edrych ar y “ddrama a’r doniolwch” sy’n datblygu ar yr awyr, yn ogystal â thu ôl i’r llenni.

Yn ôl y rhagolwg i’r sioe, “llythyr cariad at wlad y gân” yw Anthem “ond â’i thafod yn dynn yn ei boch”, ac mi fydd hi’n sioe sy’n addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg hefyd.

Cafodd y cynhyrchiad comedi newydd sbon ei hysgrifennu gan Llinos Mai, sydd hefyd wedi cyd-gyfansoddi’r caneuon a’r gerddoriaeth gyda Dan Lawrence, a bydd Alice Eklund yng nghadair y cyfarwyddwr.

Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi bod yn cynhyrchu sioeau gwreiddiol ers deng mlynedd, gyda’u sioe gyntaf, Ma’ Bili’n Bwrw’r Bronco, yn cael ei pherfformio ym mis Gorffennaf 2012.

‘Sioe llawn comedi, caneuon a chariad’

Mae Llinos Mai wedi gadael ei hôl ar y byd comedi yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf.

Gan ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg, mae hi hefyd wedi ymddangos yn ei sioeau ei hun, gan gynnwys The Leaving Do ar lwyfan a The Harri-Parris Radio Show ar BBC Radio Wales.

Fe wnaeth hi hefyd ysgrifennu pennod o’r ddrama gomedi Cara Fi, a gafodd ei darlledu ar S4C am y tro cyntaf yn 2014, a’r gyfres gomedi i blant, Cacamwnci.

Yn ddiweddar, mae hi hefyd wedi ysgrifennu a chyflwyno’r podlediad comedi i blant, Hanes Mawr Cymru, sy’n ymddangos ar BBC Sounds.

“Mae Anthem yn sioe llawn comedi, caneuon a chariad am ddiwylliant a thraddodiadau Cymru,” meddai Llinos.

“Yn syml iawn, dw i wedi creu y math o sioe bydden i’n dwlu mynd i’w gweld yn y theatr!

“Dwi’n falch iawn o gael cydweithio â Chanolfan Mileniwm Cymru i greu Anthem, sioe Gymraeg mor uchelgeisiol.

“Mae’n mynd i fod yn noswaith llawn hwyl ac ry’n i ni i gyd yn haeddu hynna ar y funud.”

‘Uchelgeisiol ac yn ffres’

Dros y blynyddoedd, mae cyfarwyddwr y ddrama gomedi, Alice Eklund, wedi gweithio i nifer o gwmnïau fel Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr y Sherman, a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Hi hefyd yw sylfaenydd BolSHE, casgliad sy’n llwyfannu a dathlu lleisiau benywaidd creadigol o Gymru.

“Dwi’n hynod gyffrous wrth roi Anthem ar y llwyfan,” meddai.

“Mi fydd sawl elfen yn dod at ei gilydd i greu y sioe yma: caneuon a sgript gwreiddiol, ffilm a gwaith digidol, ynghlwm ag elfennau traddodiadol theatr gyda gogwydd llachar a disglair!

“Mae hi wedi bod yn fraint i weithio gyda Llinos ar y darn yma, mae hi’n gyfle gwych i ddangos pa mor bwysig yw lleisiau Cymry ac i beidio tanamcangyfrif calibr y sîn Gymraeg.

“Mae’n uchelgeisiol ac yn ffres, ac mae hi’n addo i fod yn noson i gofio.”

Branwen Jones o Ganolfan Mileniwm Cymru yw cynhyrchydd Anthem.

“Dyma enghraifft o’r ymrwymiad sydd gan Ganolfan Mileniwm Cymru i greu gwaith cyfoes, wedi’u wreiddio yn niwylliant penodol Cymru,” meddai.

“Ac ar adeg pan ydyn ni’n ysu i ddathlu cymuned ac ysbryd y Cymry, dyma’r cynhyrchiad perffaith i’w lwyfannu.

“Dwi’n sicr bydd cynulleidfaoedd yn gwirioni ar dalentau’r tîm creadigol, y caneuon gafaelgar a nodweddion y cymeriadau dros ben llestri sy’n gyfarwydd i ni gyd.

“Mae hi’n andros o fraint i gyhoeddi Anthem; ein sioe gyntaf ein hunain yn 2022.”