Mae rheolwr Caerdydd, Steve Morison, wedi mynnu nad oes unrhyw glwb wedi dangos diddordeb mewn prynu ymosodwr Cymru, Kieffer Moore.

Daw hyn wrth i Gaerdydd baratoi i herio Blackburn gartref yfory (dydd Sadwrn, 15 Ionawr), gyda’r gic gyntaf am 12:30.

Nid yw’r ymosodwr, 29, wedi bod ar gael i Gaerdydd ers tro gyda chyfuniad o Covid-19 ac anaf yn ei gadw allan o’r garfan.

Roedd yn destun diddordeb gan Wolves yr haf diwethaf, a hynny ar ôl rhwydo 24 gôl i’w glwb a’i wlad y tymor diwethaf.

Hyd yma, mae Moore wedi sgorio pum gôl i Gaerdydd y tymor hwn.

Mae sibrydion wedi parhau amdano ers yr haf, a gyda dros bythefnos yn weddill o ffenestr drosglwyddo Ionawr mae digonedd o amser i glwb arall ei arwyddo.

“Sgwrs ddibwrpas”

Yn ôl Steve Morrison, does dim sylwedd i’r sibrydion.

“Nes mae rhywun yn rhoi galwad ffôn go-iawn i ni ac yn dweud eu bod nhw am ei brynu, mae’n teimlo fel sgwrs eithaf dibwrpas,” meddai.

“Rydyn ni’n dal i gael yr un sgwrs a does dim byd byth yn newid.

“Nid yw Kieffer wedi curo ar fy nrws a dyw ei asiant heb fy ffonio. Felly dim ond pobol yn dyfalu yw hyn.

“Mae Chris Wood yn symud i Newcastle ac mae pawb yn dweud wrthyf bod [Kieffer Moore] yn mynd i Burnley yfory.

“Mae rhywun yn rhannu sibrydion ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae’n achosi storm ddiangen.”