Bydd Caerdydd yn croesawu chwech o’u chwaraewyr rhyngwladol yn ôl ar gyfer eu gornest Ewropeaidd ar Barc yr Arfau heno (14 Ionawr).
Mae’r rhanbarth yn gallu dewis tîm llawer mwy cystadleuol yn erbyn Harlecwiniaid Llundain y tro hwn, wedi i nifer o’u chwaraewyr orfod hunanynysu yn dilyn achosion o Covid-19 yn ystod rowndiau cyntaf Cwpan y Pencampwyr eleni.
Yn ystod y rowndiau hynny, fe ddioddefodd Caerdydd golledion gartref i Toulouse (7-39) ac oddi cartref yn erbyn yr Harlecwiniaid (43-17), gyda charfan wannach o chwaraewyr wrth gefn yn llenwi i mewn ar gyfer nifer o’r enwau arferol.
Bydd mwy neu lai angen buddugoliaeth ar ddynion Dai Young os ydyn nhw am gael cyfle i symud ymlaen i rownd yr 16, neu gymhwyo i’r Cwpan Her hyd yn oed, gyda’r timau rhwng y 9fed a’r 11eg safle ymhob grŵp yn disgyn i’r gystadleuaeth honno.
Mae’r gêm yn y brifddinas heno (nos Wener, 14 Ionawr) yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C, gyda’r gic gyntaf am wyth y nos.
Tomos Williams yn dychwelyd
Yn dychwelyd i safleoedd yr haneri mae Jarrod Evans a Tomos Williams i gymryd lle’r bartneriaeth brofiadol rhwng Rhys Priestland a Lloyd Williams.
Ar yr asgell, bydd chwaraewr Cymru a’r Llewod Josh Adams yn dechrau, gyda Hallam Amos, sy’n ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn, yn ôl yn safle’r cefnwr.
Hefyd, mae Ellis Jenkins a Shane Lewis-Hughes wedi eu henwi yn y rheng ôl, wrth i Gaerdydd wneud wyth newid i’r tîm sy’n dechrau ar ôl crasfa yn erbyn Caeredin y penwythnos diwethaf.
Bydd y bachwr Kirby Myhill yn cadw ei le yn y rheng flaen, ond mae cyfres o anafiadau yn y safle hwnnw yn golygu bod ei frawd, Torin, wedi cael ei alw o glwb Cwins Caerfyrddin i ddirprwyo ar y fainc.
Mae’r Harlecwiniaid wedi gwneud tri newid i’w tîm cychwynnol, gan gynnwys yr asgellwr Louis Lynagh – mab y maswr chwedlonol o Awstralia, Michael Lynagh.
Bydd gan y gwrthwynebwyr chwaraewyr amlwg megis Marcus Smith, Alex Dombrandt a Joe Marler yn eu rhengoedd.
Gair gan yr hyfforddwr
Ar drothwy’r ornest heno, bu Cyfarwyddwr Rygbi Caerdydd yn trafod y gemau caled mae Caerdydd wedi gorfod eu chwarae yn Ewrop hyd yma.
“Gallwn fod yn falch iawn o’r ffordd y daeth y grŵp at ei gilydd i berfformio’n wych yn y ddwy rownd agoriadol yn Ewrop nôl ym mis Rhagfyr,” meddai Dai Young.
“Fe wnaeth y bechgyn hŷn waith gwych i arwain y chwaraewyr mwy dibrofiad yn ystod y cyfnod hwnnw ac maen nhw wedi cymryd hyder o hynny.
“Roedd yn gyfnod anodd ond fe wnaethon ni lynu gyda’n gilydd a gobeithio ein bod ni wedi dod allan fel uned agosach.
“Er yr holl bethau cadarnhaol fodd bynnag, roedden nhw’n ddwy golled ac rydyn ni eisiau ennill pob gêm rydyn ni’n chwarae.
“Rydyn ni’n benderfynol o fynd un yn well y tro hwn ond rydyn ni’n gwybod y safon rydyn ni’n ei wynebu.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at y cyfle i ddod yn ôl wrth i ni ddychwelyd i chwarae ym Mharc yr Arfau.”
Y garfan
Rygbi Caerdydd: Hallam Amos; Owen Lane, Rey Lee-Lo, Uilisi Halaholo, Josh Adams; Jarrod Evans, Tomos Williams; Rhys Carré, Kirby Myhill, Dmitri Arhip, Josh Turnbull (capt.), Seb Davies, Shane Lewis-Hughes, Ellis Jenkins, James Ratti
Mainc: Torin Myhill, Corey Domachowski, Dillon Lewis, Rory Thornton, Will Boyde, Lloyd Williams, Rhys Priestland, Ben Thomas