Mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru’n rhybuddio y bydd hi’n “ras yn erbyn y cloc” i werthu’r holl docynnau ar gyfer y gêm ryngwladol yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Daeth cadarnhad ddoe (dydd Gwener, Ionawr 14) y bydd torfeydd yn cael bod mewn gemau yng Nghymru unwaith eto o Ionawr 21, ar ôl i Lywodraeth Cymru lacio’r cyfyngiadau Covid-19 oedd yn eu lle yn sgil yr amrywiolyn Omicron.

Cafodd yr holl gemau chwaraeon ers Dydd San Steffan eu cynnal heb dorfeydd, ac roedd pryderon na fyddai torfeydd yn cael bod yng ngêm gynta’r bencampwriaeth rygbi wrth i Gymru geisio amddiffyn eu teitl.

Roedd Undeb Rygbi Cymru wedi bod yn ystyried cynnal eu gemau cartref dros y ffin yn Lloegr, lle mae modd i gefnogwyr fynd i wylio gemau, ac ar ôl i hynny gael ei ddiystyru yn y pen draw, mae’r Undeb ar ei hôl hi erbyn hyn o ran gwerthu tocynnau mewn da bryd.

Torfeydd yn gwneud gwahaniaeth “anfesuradwy”

“Rydyn ni wrth ein boddau fod torfeydd llawn yn cael dychwelyd ar gyfer y Chwe Gwlad yng Nghymru,” meddai Steve Phillips, prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru.

“Mae’r gwahaniaeth mae torf yn ei wneud i berfformiad ar y cae yn anfesuradwy, ac mae nifer o’n chwaraewyr hŷn wedi bod yn llafar iawn am effaith bositif torf lawn yng Nghaerdydd.

“Mae’r awyrgylch a ddaw gyda’r cefnogwyr i Stadiwm Principality heb ei ail, a bydd y newyddion hwn i’w groesawu’n fawr gan hyfforddwyr a chwaraewyr.

“Wedi gwylio’r Chwe Gwlad yn 2021 heb dorfeydd, mae’r diweddariad diweddar gan Lywodraeth Cymru’n galonogol iawn.

“Rydyn ni i gyd eisiau gweld torfeydd llawn yn y tair gêm, ond oherwydd y pandemig, rydyn ni nawr mewn ras yn erbyn y cloc i gyflawni’r hyn a fyddai, fel arfer, yn dod yn naturiol; mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer y gêm yn erbyn yr Alban o ystyried pa mor agos ydyn ni iddi.

“Dydy hi ddim yn gyfrinach fod cefnogwyr wedi bod yn aros i weld beth fyddai’n digwydd o ran cyfyngiadau, ond dylai’r newyddion hynod bositif arwain at ruthr ffres am docynnau.”

Y cyfyngiadau

Dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford y byddai’r cyfyngiadau lefel dau yn cael eu codi mewn pedwar cam yng Nghymru, yn amodol ar gyfraddau isel o ran achosion.

Bydd nifer y bobol sy’n cael bod mewn digwyddiadau awyr agored yn cynyddu o 50 i 500 ar unwaith, a fydd dim uchafswm o Ionawr 21.

Gall clybiau nos ailagor a fydd dim cyfyngiadau ar letygarwch, er y bydd angen pasys Covid ar gyfer digwyddiadau mawr o hyd, yn ogystal ag mewn sinemâu, clybiau nos a theatrau.

Bydd y cyfyngiadau’n cael eu hadolygu bob tair wythnos o Chwefror 10, wrth i’r wlad symud i gyfyngiadau lefel sero – maen nhw wedi cael eu hadolygu’n wythnosol dros yr wythnosau diwethaf.

Mae Mark Drakeford yn wfftio’r awgrym bod y Llywodraeth wedi dileu’r gwaharddiad ar dorfeydd am resymau economaidd ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad – y gred yw fod pob gêm yn y gystadleuaeth yn rhoi hwb o fwy nag £20m i economi Cymru.

Mae gan Gymru dair gêm gartref eleni, a’r rheiny yn erbyn yr Alban, Ffrainc a’r Eidal.

Bu’n rhaid i dimau pêl-droed Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, sydd i gyd yn chwarae yng Nghynghrair Bêl-droed Lloegr, chwarae eu gemau cartref heb dorfeydd, ond mae torfeydd wedi cael mynd i gemau oddi cartref yn Lloegr.

Mae’r Elyrch yn gobeithio y bydd modd cael torf ar gyfer y gêm gartref yn erbyn Preston ar Ionawr 22.

Cafodd ras geffylau Grand National Cymru ei chynnal yng Nghas-gwent ar Ragfyr 27, ond doedd dim modd cael gwylwyr er bod dros 6,000 o docynnau wedi’u gwerthu.

Gemau cartref y Chwe Gwlad i’w cynnal gyda thorfeydd yng Nghaerdydd

Daw hyn wedi i Undeb Rygbi Cymru edrych ar y posibilrwydd o gynnal y gemau yn Lloegr