Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn dweud bod pobol sydd angen gofal “yn derbyn gwell gwasanaethau” yn sgil rhaglen beilot newydd.

Fel rhan o’r cynllun, a gafodd ei gyflawni rhwng 2019 a 2021, fe wnaethon nhw gydweithio â chynghorau sir Ceredigion a Phenfro, yn ogystal â Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Yn rhan o hynny, roedd staff presennol a newydd yn derbyn hyfforddiant a chyngor ynglŷn â phynciau megis iechyd a diogelwch, ac egwyddorion a gwerthoedd.

Yn ôl Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth, mae’r cynllun wedi cynyddu hyder a chymhwysedd dysgwyr sy’n hyfforddi i ddod yn weithwyr gofal, yn ogystal â chefnogi recriwtio a chadw’r gweithlu.

Arweiniodd hynny at well canlyniadau i bobol sy’n defnyddio’r gwasanaethau yn ôl gwerthusiad o’r prosiect.

Prinder staff

Roedd awdurdod Cyngor Sir Gâr wedi dod o dan bwysau yn ddiweddar am safonau eu gwasanaeth gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig.

Fe wnaeth prinder staff yn y sir achosi bylchau yn y gwasanaeth roedd pobol fregus yn y sir yn ei dderbyn, gyda rhai unigolion yn ei chael hi’n anodd derbyn gofal am gyfnod.

Bryd hynny, fe alwodd y Cyngor ar deuluoedd i fod “yn hyblyg” wrth wneud ceisiadau am becynnau gofal, a chymryd dyletswyddau gofal os oedd modd.

Roedd sawl person wedi gorfod aros yn hirach na’r disgwyl mewn ysbytai i gael dychwelyd adref neu i gartref gofal gan eu bod nhw’n methu cael pecynnau gofal cymdeithasol.

Yn Sir Gaerfyrddin, mae tua 400 o bobol yn dibynnu ar staff gofal cymdeithasol y Cyngor, tra bod oddeutu 700 o bobol yn dibynnu ar rai allanol.

Er nad yw’n hysbys a oes prinder staff yn barhaol, dywed yr awdurdod fod 160 aelod o staff wedi cwblhau’r rhaglen ddiweddar.

‘Canlyniadau rhagorol’

Dywed Jonathan Griffiths, cadeirydd Bwrdd y Rhaglen Gweithlu Rhanbarthol, fod y cynllun wedi arwain at newidiadau cadarnhaol.

“Mae’r cynllun peilot sefydlu ar y cyd wedi ennyn canlyniadau rhagorol o ran sicrhau bod ein staff iechyd a gofal yn cael eu cefnogi i ddarparu gofal o safon uchel,” meddai.

“Bydd cyflwyno’r rhaglen yn cael ei ddatblygu fel un o’n blaenoriaethau ar gyfer gorllewin Cymru drwy gyfrwng bwrdd y rhaglen gweithlu rhanbarthol.”

Dywed y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Ragoriaeth y byddai’n ceisio adeiladu ar y gwaith da a’r canlyniadau cadarnhaol a ddaeth yn sgil y peilot.

“Rwyf wrth fy modd bod y cynllun peilot wedi bod yn llwyddiannus ac yn falch iawn y gallwn ddweud bod gennym y swydd iechyd a gofal cymdeithasol integredig gyntaf yng Nghymru i reoli’r rhaglen,” meddai Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Mae wedi bod yn ddull cwbl gydweithredol, sydd wedi ein galluogi i osod safonau ar gyfer yr holl weithwyr cymorth gofal iechyd newydd sy’n ymuno â’r sectorau.

“Mae’r dull hwn wedi sicrhau bod gan y gweithwyr hynny yr egwyddorion, y gwerthoedd, y ddealltwriaeth a’r sgiliau cywir i sicrhau bod anghenion y rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau yn cael eu diwallu.”