Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r gohebydd gwleidyddol John Stevenson, sydd wedi marw’n 68 oed.

Cafwyd hyd i gyrff dau ddyn yn Aberdâr brynhawn ddoe, yn ôl yr heddlu sy’n dweud nad oes ganddyn nhw eglurhad, ond nad ydyn nhw’n trin eu marwolaethau fel rhai amheus.

Mewn rhaglen ddogfen rai blynyddoedd yn ôl, ‘Gadael y Gwter: Stori John Stevenson’ fe ddisgrifiodd e’r profiad o fyw fel dyn hoyw oedd yn ceisio gwneud ei ffordd yn y byd gwleidyddol ond a oedd yn ddigartref yn ystod ei gyfnod isaf.

Bywyd a gyrfa – y dyddiau cynnar

Cafodd ei eni ym Mangor a’i fagu yn Llangoed, ac fe gafodd ei addysg ym Mhrifysgol Bangor lle graddiodd e mewn Hanes a Diwynyddiaeth, ac roedd ei fryd ar fod yn bregethwr.

Fe briododd â dynes a mynd i weithio i’r hen Gyngor Arfon.

O’r fan honno, aeth yn newyddiadurwr gyda’r BBC yng Nghaerdydd, lle’r oedd yn ymchwilydd gyda’r rhaglen ‘Heddiw’.

Ymunodd â ‘Newyddion 7’ pan gafodd S4C ei sefydlu.

Alcoholiaeth a dychwelyd i’r BBC

Ond fe adawodd y Gorfforaeth yn sgil ei frwydr ag alcoholiaeth, cyn cael swydd fel ymchwilydd yn swyddfa’r Aelod Seneddol Ann Clwyd yng Nghwm Cynon.

Dychwelodd i’r BBC yn 1997, gan weithio fel cynhyrchydd ar raglen ‘Stondin Sulwyn’ ac yna fe ddychwelodd i’r gogledd yn Ohebydd Gwleidyddol.

Roedd yn dweud mai cael ei arestio wnaeth iddo roi’r gorau i alcoholiaeth, oedd wedi bod yn gysgod dros ei fywyd ers cyhyd.

Fe wnaeth e ymddeol yn 2013 a llunio’i hunangofiant ‘Ar Fy Ngwaethaf’ yn 2015.

Teyrnged y BBC

“Roedd John yn gymeriad unigryw a wnaeth gyfraniad sylweddol a phwysig i newyddiaduraeth Cymru dros bedwar degawd,” meddai Garmon Rhys, Pennaeth Newyddion BBC Cymru.

“Roedd yn feddyliwr craff ac yn sylwebydd rhugl gyda’i arddull rwydd yn gwneud ei adroddiadau yn rhai cofiadwy. Wrth gofio John heddiw, ryn ni hefyd yn cofio cymeriad hoffus, hawdd iawn cyd-weithio gydag ef.

“Gwelodd John sawl tro ar fyd ond canlyniad hyn oedd dod ag yntau’n agos at ei gynulleidfa gan ddyfnhau ei gonsyrn cymdeithasol. Yn ogystal ag adrodd ar yr hyn a oedd yn digwydd, roedd ganddo hefyd y ddawn brin honno i ddweud pam fod yr hyn a ddigwyddai yn bwysig, gan adlewyrchu ei wybodaeth ddofn o hanes gwleidyddiaeth Cymru a San Steffan.

“Rwy’n gwybod ein bod fel ystafell Newyddion yn teimlo’r golled i’r byw ond yn fwy na hynny, mae’n cofion heddiw efo’i deulu a’i ffrindiau agosaf.”

‘Heriol a hoffus, a Chymro arbennig iawn’

Ac mae Andy Bell, sydd bellach yn byw yn Awstralia yn dweud wrth golwg360 fod John Stevenson yn “gymeriad heriol a hoffus, a Chymro arbennig iawn”.

“Wnes i gwrdd â John yn ystod yr 80au cynnar, ynteu ychydig ar y blaen i mi o ran gyrfa newyddiadurol,” meddai.

“John yn foi BBC a minnau’n gweithio i Ddarlledu Caerdydd (CBC).

“Cymeriad heriol a hoffus a Chymro arbennig iawn.

“Aeth yr hel straeon yn drech na fe … fel sawl un arall yn y maes, ond wnaeth e ddefnyddio ei ddawn fel rhan o’i daith yn ôl o grafangau’r diod a mwy.

“Prin yw’r cymeriadau sydd yn wirioneddol gwreiddiol a chofiadwy. John oedd un ohonynt.”

Teyrngedau eraill

Mae llu o’i gydweithwyr wedi bod yn rhoi teyrngedau iddo ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dyma rai ohonyn nhw: