Mae gorymdaith annibyniaeth Wrecsam ar Ebrill 18 wedi cael ei gohirio, yn ôl cyhoeddiad gan y trefnwyr.
Daw’r datganiad gan fudiad Pawb Dan Un Faner yn sgil ymlediad coronavirus yng Nghymru a thu hwnt.
Dywed y trefnwyr iddyn nhw wneud penderfyniad fis ymlaen llaw “er mwyn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i bawb oedd yn bwriadu mynychu”, ac er mwyn cydymffurfio â chamau i “gadw pellter cymdeithasol” sy’n rhan o ymateb yr awdurdodau i’r pandemig.
Mae disgwyl i’r orymdaith a’r rali gael eu cynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ond dydy hi ddim yn glir eto beth fydd effaith gohirio’r digwyddiad ar y gorymdeithiau yn Nhredegar ar Fehefin 6 ac Abertawe ar Fedi 5.
Mae golwg360 yn deall mai’r bwriad ar hyn o bryd yw cadw at y dyddiadau ar gyfer y gorymdeithiau eraill, ond nad oes dyddiad wedi’i bennu eto ar gyfer yr orymdaith yn Wrecsam.
Datganiad
“Wedi i ni ystyried yn hir rydyn ni wedi penderfynu gohirio AUOBWrecsam, oherwydd pandemig y coronafeirws,” meddai Llywelyn ap Gwilym, ar ran Pawb Dan Un Faner Cymru.
“Rydym yn cydymdeimlo â phawb sydd eisoes wedi gwneud cynlluniau, a gyda’r grŵp sy’n trefnu lleol fu’n gweithio mor galed dros y misoedd diwethaf.
“Ond mae iechyd a lles ein holl gefnogwyr, rhanddeiliaid eraill, ac yn ehangach, y cyhoedd yng Nghymru, yn brif bryder i ni.
“Rydym yn cymryd ein dyletswydd i bobl Cymry o ddifrif: gohirio yw’r ffordd orau i ni gefnogi’r Cymry, ein GIG, a’n gwasanaethau brys eraill.
“Byddwn yn monitro’r sefyllfa’n agos, ac yn ceisio aildrefnu’r orymdaith cyn gynted â phosibl.
“Dydy Wrecsam ddim yn mynd i unman, na chwaith y galw am annibyniaeth – byddwn i fyny yn y gogledd ddwyrain cyn gynted ag y gallwn!”
Yr ymateb yn lleol
Mae’r trefnwyr lleol wedi ymateb i’r cyhoeddiad.
“Mae o’n siom enfawr, roeddem yn disgwyl llawer o bobl i ddod, ond mae angen rhoi iechyd pawb cyn popeth,” meddai Adam Balchder, prif stiward yr orymdaith.
“Mae’r pwyllgor wedi penderfynu gohirio’r orymdaith er lles pawb.
“Rydym yn edrych ymlaen i groesawu pawb i Wrecsam yn hwyrach yn y flwyddyn.”