Mae sawl prifysgol ledled Prydain wedi rhoi diwedd ar ddarlithoedd confensiynol, ac wedi troi at ddysgu ar-lein.
Ymateb i lediad y conornafeirws yw’r cam, ac mae’r penderfyniad yn groes i gyngor swyddogol.
Mae Boris Johnson, y Prif Weinidog yn San Steffan, wedi dweud y dylen nhw ond cau “os ydyn nhw wedi derbyn cyngor penodol i wneud hynny”.
Er gwaetha’ hynny mae prifysgolion Durham, Rhydychen a Northumbria wedi annog darlithwyr i gynnal darlithoedd dros y We.
Bwriad y cam yw rhwystro myfyrwyr rhag ymgynnull mewn neuaddau ac ystafelloedd dosbarth.
Cymryd camau
Mae chwe myfyriwr ym Mhrifysgol Rhydychen wedi dal yr haint, ac mae myfyrwyr – sy’n dod o’r deyrnas Unedig – wedi cael eu cynghori i ddychwelyd adref tros wyliau’r Pasg.
Mae prifysgolion Glasgow, Lancaster, Imperial a Dwyrain Anglia hefyd wedi cymryd camau yn sgil lledaeniad y coronafeirws, neu covid-19.