Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi cyhuddo Aelodau Seneddol Ceidwadol o fod yn “hynod o ddifater” ynghylch yr argyfwng costau byw.

Daw’r cyhuddiad ar ôl i gwmni ymchwilio Savanta ComRes ganfod y byddai 75% o bleidleiswyr y Blaid Geidwadol yn cefnogi treth ar hap ar gwmnïau olew a nwy er mwyn rhoi cefnogaeth ariannol i aelwydydd sy’n ei chael hi’n anodd fforddio ynni.

Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn honni nad yw Aelodau Seneddol y Ceidwadwyr yng Nghymru yn teimlo’r un fath â’u pleidleiswyr yn hynny o beth.

Mae hi wedi cyfeirio at sylwadau a wnaed ar Twitter gan Fay Jones, yr Aelod Seneddol dros Frycheiniog a Maesyfed, yn nodi y byddai cynnig gan y Blaid Lafur yn lleihau biliau tanwydd o “ychydig bunnoedd” yn unig.

Cafodd Fay Jones ei chyhuddo gan Jane Dodds o ddangos “diffyg empathi” tuag at bobol sy’n cael trafferth talu biliau ynni.

Ym mis Ebrill, bydd y cap ar filiau ynni yn codi i £1,865, ac mae disgwyl y bydd y ffigwr hwnnw yn codi’n uwch na £2,000 erbyn mis Hydref eleni, yn ôl arbenigwyr.

Mae nifer wedi dweud y bydd hynny yn cael effaith enbyd ar y cyhoedd, gan gynyddu’r nifer o aelwydydd fydd yn dioddef o dlodi tanwydd yng Nghymru.

‘Dangos difaterwch’

Yn dilyn canfyddiadau’r arolwg gan Savanta ComRes, mae Jane Dodds yn dweud bod angen cefnogi treth ar hap ar gwmniau olew a nwy, er mwyn ariannu rhaglenni cymorth i’r rhai sy’n cael trafferth talu eu biliau ynni.

“Gyda’r cyhoedd yn gyffredinol a phleidleiswyr y Blaid Geidwadol ill dau o blaid cynlluniau’r Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer treth ar gwmnïau olew a nwy byd-eang… mae’n syfrdanol bod Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymru yn parhau i fod yn hynod o ddifater â’r cyhoedd,” meddai.

“Mae llawer o’r ardaloedd sydd am gael eu taro waethaf yn cael eu cynrychioli gan Aelodau Seneddol Ceidwadol, gan gynnwys Maldwyn, Brycheiniog a Maesyfed, ac Ynys Môn.

“Mae rhai fel Fay Jones wedi dangos difaterwch drwy honni nad yw “ychydig bunnoedd” yn bwysig, er y byddai hyn yn achosi i rai teuluoedd orfod dewis rhwng bwyta neu aros yn gynnes yn yr ardaloedd sy’n cael eu taro waethaf.

“Gyda 11 allan o’r 13 Aelod Seneddol Ceidwadol yng Nghymru yn pleidleisio yn erbyn gostwng TAW [Treth ar Werth] ar filiau ynni yr wythnos diwethaf, mae’n amlwg bod angen i’r Blaid archwilio eu blaenoriaethau.

“Mae cwmnïau olew a nwy yn gwneud yr elw mwyaf y maen nhw wedi’i wneud ers blynyddoedd, ac eto, mae’n ymddangos bod Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymru yn poeni mwy am ddiogelu elw’r cewri byd-eang hyn nag y maen nhw am sicrhau nad yw eu hetholwyr yn mynd i dlodi.

“Bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn parhau i frwydro am dreth ar gewri olew a nwy tra’n cefnogi dyblu ac ehangu’r cynllun disgownt cartrefi cynnes a dyblu taliadau tanwydd gaeaf.”

Cynnydd mewn biliau ynni yn uwch yn ardaloedd gwledig Cymru, medd y Democratiaid Rhyddfrydol

Bydd y cap sydd ar filiau ynni yn codi’n sylweddol ym mis Ebrill, gyda saith o’r 20 ardal sy’n cael eu taro waethaf wedi eu lleoli yng Nghymru