Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn ategu galwadau elusen sy’n darparu gofal i bobol ag anableddau dysgu i ostwng y cyfnod hunanynysu ar gyfer Covid-19 o saith niwrnod i bump.
Fe fu’r blaid yn galw am y newid yr wythnos ddiwethaf ar ôl i Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig gyhoeddi data’n awgrymu nad yw dau draean o bobol yn heintus ar ôl pum niwrnod.
Yn dilyn newidiadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, dim ond am bum niwrnod y bydd angen hunanynysu yn dilyn prawf llif unffordd negyddol ar y pumed diwrnod ac ar ddechrau’r diwrnod cyntaf ar ôl i’r cyfnod hunanynysu ddod i ben.
Yn ôl Perthyn, sy’n cyflogi tua 850 o staff i helpu dros 250 o bobol, byddai’r fath gam yn lleihau’r pwysau ar lefelau staffio, a hynny er lles eu cleientiaid.
“Gyda’r cynlluniau i roi brechlyn atgyfnerthu wedi datblygu cymaint, mae’r angen i gynnal lefelau staffio gwasanaethau cyhoeddus, a’r dyhead cynyddol i symud i’r pwynt lle’r ydyn ni’n byw heb y feirws, daeth yr amser i ni dorri’r cyfnod hunanynysu,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Gallaf ddeall y nerfau ynghylch gostwng y cyfnod hunanynysu, ond mae dal angen prawf negyddol ac mae’r data’n dangos nad yw’r rhan fwyaf o bobol yn heintus ar ôl pum niwrnod.
“Mae hyn hefyd yn digwydd pan mai’r math amlycaf yn y Deyrnas Unedig yw’r amrywiolyn mwy ysgafn, Omicron.
“Gwelsom dros y Nadolig fod Covid yn niweidio’r gymdeithas Brydeinig, nid trwy lefel uchel o dderbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau ond trwy fod miloedd yn gorfod ynysu, gan adael gwasanaethau cyhoeddus â lefelau staffio isel, cwsmeriaid wedi’u siomi, a busnesau’n colli allan.”