Mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, yn gwrthod ymddiheuro ar ôl i fideo ohono yn yfed mewn swyddfa ddod i’r amlwg.

Roedd y fideo wedi ei ffilmio pan oedd cyfyngiadau Covid-19 yn Lloegr yn atal unigolion rhag ymgynnull i gymdeithasu mewn lleoliadau dan do.

Fe wadodd Starmer fod unrhyw reolau wedi cael eu torri, gan honni ei fod o a’i gydweithwyr yn gweithio ar yr ymgyrch etholiadol yn 2021.

Mae nifer wedi dweud bod ymddygiad yr arweinydd yn rhagrithiol, gan ystyried ei fod wedi galw’n gyson ar y Prif Weinidog Boris Johnson i ymddiswyddo yn dilyn partïon honedig yn Rhif 19 yn ystod y cyfnod clo.

Fideo

Mae’r fideo sydd wedi ei rhannu yn dangos Keir Starmer yn yfed mewn lleoliad dan do, gydag o leiaf bedwar unigolyn arall yn bresennol.

Yn ôl Starmer, swyddfa Aelod Seneddol Dinas Durham, Mary Foy, oedd y lleoliad ac roedden nhw’n paratoi at etholiadau lleol ym mis Mai ac isetholiad seneddol Hartlepool.

Roedd yn ateb cwestiynau ar raglen galw i mewn y mae’n ei chyflwyno ar orsaf radio LBC.

“Roedd y lluniau ohonof fi mewn swyddfa etholaeth yn y gogledd-ddwyrain,” meddai.

“Dw i’n credu ei bod hi dri neu bedwar diwrnod cyn etholiadau mis Mai, felly roedden ni’n brysur iawn. Roeddwn i gyda fy nhîm yn mynd o le i le ledled y wlad.

“Roedden ni mewn swyddfa, yn gweithio yn y swyddfa ac fe wnaethon ni stopio i gael têcawê, ac yna fe wnaethon ni barhau i weithio.

“Doedd dim rheolau wedi eu torri. Doedd dim parti. Ac yn sicr does dim cymhariaeth â’r Prif Weinidog.”

Ychwanegodd Starmer nad oedd bwyty na thafarn ar agor ar y pryd, a doedd y gwesty yr oedd o a’i gyd-weithwyr yn aros ynddo ddim yn gweini bwyd.

“Os nad oedden ni wedi cael têcawê, fydden ni ddim wedi bwyta’r noson honno,” meddai.

Doedd yr arweinydd ddim am ymddiheuro oherwydd eu bod nhw “heb wneud dim o’i le.”

Ymateb

Wrth ymateb i hynny, dywedodd yr unigolyn a wnaeth ffonio i mewn er mwyn cwestiynu Keir Starmer ei fod e’n “union fel Boris Johnson heb y cecian”, a’i fod yn “rhagrithiol” am beidio ag ymddiheuro.

Roedd Nadhim Zahawi, Ysgrifennydd Addysg San Steffan, hefyd wedi galw am ymddiheuriad ar raglen BBC Breakfast fore heddiw (dydd Llun, Ionawr 17).

“Rwy’n credu bod pobol yn disgwyl safonau uchel iawn o’u harweinyddion, ac rwy’n credu bod hynny ond yn iawn,” meddai.

Ond roedd nifer ar Twitter yn honni bod gwahaniaethau rhwng yr adroddiadau am Boris Johnson a’r adroddiadau am Keir Starmer.

“Rydych chi’n dal i rygnu ar yr un tant,” meddai @Welsh_Dragon_71 wrth ymateb i rywun oedd yn gwneud cyhuddiadau am Starmer.

“Un gwahaniaeth mawr yw bod Starmer heb ddweud celwydd yn y Senedd a bod y digwyddiad [honedig] heb ddigwydd.

“Roedd Johnson yn bendant nad oedd parti wedi digwydd erioed.”

“Hefyd, roedd parti Johnson yn 2020 pan oedden ni mewn cyfnod clo llawn,” meddai @Welshwhippet.

“Roedd un Starmer yn 2021 pan doedden ni ddim.”