Mae Dr Rodolfo Piskorski o Frasil, sy’n gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd ac sydd wedi dysgu Cymraeg, wedi dweud wrth golwg360 fod gwerth addysgiadol i’r gêm Gairglo – fersiwn Gymraeg y mae e a’i bartner wedi’i chreu o’r gêm boblogaidd Wordle – a bod technoleg yn “hanfodol” er mwyn cyrraedd Miliwn o Siaradwyr Cymraeg.
Cafodd y gêm boblogaidd Wordle ei datblygu gan y peiriannydd meddalwedd Josh Wardle o Landdewi Rhydderch ger y Fenni sy’n byw yn Efrog Newydd. Ei fwriad oedd chwarae’r gêm gyda’i bartner, cyn ei rhannu gyda’i deulu ar WhatsApp.
Ac ar ôl gweld pa mor boblogaidd yw’r gêm Saesneg, aeth Dr Rodolfo Piskorski ati i greu Gairglo ar gyfer ei wefan hir-iaith, sy’n cynnig adnoddau a gemau ar gyfer dysgwyr eraill.
“Dw i wedi bod yn gweithio ar hwn ers i fi gael help Crowdfunding i ddod yn ddinesydd Prydeinig,” meddai.
“Wrth sefyll fy mhrawf dinasyddiaeth yn Gymraeg y ces i ddiddordeb yn hwn, ac ro’n i’n chwarae Wordle fel pawb arall, a wnaeth rhywun sôn ei bod hi wedi cael ei datblygu gan Gymro.
“Dechreuodd pobol ofyn a fyddai’n bosib ei chael yn Gymraeg? Tybed sut fyddai’n edrych? Roedd pobol bron yn ei ddweud e fel jôc.
“Ond sylweddolais i y byddai’n bosib oherwydd, fel dywedais i, mae gen i wefan ac mae’r gêm Sgrabl ar y wefan, sydd â chronfa ddata o eiriau.
“Ac mae fy mhartner yn gwybod sut i godio, a fe sydd wedi bod yn codio’r wefan.
“Doedd dim llawer o waith i wneud i roi hwn at ei gilydd gan ddefnyddio’r gronfa ddata a dilyn yr un rheolau.
“Fe wnes i ei rhoi hi ar-lein, ar Twitter yn bennaf, ac mae pobol wedi bod yn chwarae. Mae’n gyffrous iawn.”
Beth yw Wordle?
Gêm ar y we yw Wordle, ac mae’n debyg iawn i’r gêm fwrdd Mastermind o’r 1970au, a’r rhaglen deledu Lingo o’r 1980au a gafodd ei hatgyfodi gyda’r actor Adil Ray (Citizen Khan) yn ei chyflwyno ar ITV.
Nod y gêm yw dod o hyd i ‘air pum llythyren y dydd’, a gall y chwaraewr roi chwe chynnig arni i gyd.
Rhaid i bob gair sy’n cael ei ddyfalu fod yn air pum llythyren ac ar ôl pob cynnig, gall y chwaraewr weld pa lythrennau sy’n gywir ac sydd yn y lle cywir, pa lythrennau sy’n gywir ond sydd heb fod yn y lle cywir, neu’r llythrennau sy’n anghywir.
Os yw’r llythyren sy’n cael ei dyfalu yn y lle cywir, mae’r blwch yn troi’n wyrdd; os yw’r llythyren yn gywir heb fod yn y lle cywir, mae’r blwch yn troi’n oren; mae ymgais anghywir yn troi’r blwch yn llwyd.
Ar ôl rhoi cynnig ar air y dydd, mae’n rhaid aros tan y diwrnod canlynol ar gyfer y pôs nesaf.
Mae’r gêm wedi dod yn hynod boblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae chwaraewyr yn cael eu gwahodd i rannu eu hystadegau ar Facebook, Twitter ac ati.
Fis Tachwedd, adeg creu’r gêm, dim ond tua 90 o bobol oedd yn chwarae’r gêm ar y we, ond mae cannoedd o filoedd yn ei chwarae hi erbyn hyn.
Strategaethau ar gyfer siaradwyr o bob lefel
Yn ôl Rodolfo, mae’r gêm yn addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg o bob lefel gan ei bod yn dibynnu’n fwy ar strategaeth y chwaraewyr na’u gallu ieithyddol – er enghraifft, mae’n tynnu sylw at y ffaith ei fod yn chwarae’r gêm yn Ffrangeg er nad yw’n gwbl rugl yn yr iaith.
“Efallai bod gennych chi eirfa helaeth iawn, neu gallwch chi ganolbwyntio ar eich cliwiau a meddwl ‘Beth allai fynd yno?’
“Ro’n i’n ei chwarae yn Ffrangeg ddoe, a dw i ddim yn siarad Ffrangeg yn dda iawn o gwbl, ond ro’n i’n gallu dweud ‘Mae hwn yn gyfuniad allai weithio’. Mae’n fater o weld pa gyfuniadau sy’n gweithio yn yr iaith, rhywbeth sydd gan ddysgwyr ar y dechrau fel arfer.
“Beth dw i eisiau, ac mae’n bosib fydd hyn ar gael yn fuan, yw bod y gêm yn fwy addysgiadol.
“Wrth ddod o hyd i’r geiriau, byddwch chi’n gallu clywed ynganiad y gair ar y diwedd, p’un a ydych chi’n ennill neu’n colli, a byddwch chi hefyd yn cael diffiniad.
“Mae’n bosib dyfalu’n gywir, hyd yn oed os nad ydych chi’n gwybod y gair, ac fe fydd yn dweud wrthoch chi ‘Enw yw hwn’ a ‘Dyma beth mae’n ei olygu’. Dyna’r cam nesaf rydyn ni’n gweithio arno.”
‘Sioc’ ynghylch poblogrwydd y gêm
Mae’n dweud ei fod e wedi cael “sioc” o weld faint o bobol sydd wedi bod yn chwarae Gairglo.
“Dw i’n gallu gweld faint o bobol sy’n ymweld â’r wefan,” meddai.
“Heddiw yw’r pumed diwrnod a’r pumed gair, ac rydyn ni wedi cael 5,000 o bobol unigol yn chwarae hyd yn hyn, a chyfanswm o 12,000 o gemau.
“Mae hynny wedi bod yn cŵl, ac mae pobol wedi bod yn brolio ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn gwneud sylwadau am ganlyniadau ei gilydd.
“Dw i wedi bod yn dilyn beth mae pobol yn dweud, ac maen nhw’n gwneud awgrymiadau.
“Dim ond ers pum niwrnod mae hi ar-lein ond rydyn ni wedi ei newid hi dipyn ers hynny.
“Ar y dechrau, roedd y bysellffwrdd yn un normal, ond roedd pobol yn dweud, ‘Efallai y dylech chi gael yr wyddor Gymraeg’, ac fe wnaethon ni newidiadau, un ar y tro, ar sail adborth pobol.
“Felly ro’n i’n trio gwneud yn siŵr bod pobol yn chwarae yr hyn roedden nhw eisiau ei chwarae.”
Chwalu myth am y Gymraeg
Yn ôl Rodolfo, mae’r gêm yn cynnig cyfle i addysgu pobol ddi-Gymraeg am yr iaith, ac yn enwedig i chwalu’r myth am ddiffyg llefariaid yn yr iaith.
“Dw i wedi clywed y jôc ddwywaith neu dair!” meddai.
“Mae gen i dudalen o erthyglau ar fy ngwefan, ac fe wnes i ysgrifennu erthygl am ba mor aml mae llefariaid yn ymddangos yn Gymraeg gan ddefnyddio data cadarn.
“Mae’n bosib, wrth chwarae’r gêm, yn enwedig gyda chytseiniaid dwbl fel un llythyren, gallech chi weld bob yn dipyn sut mae geiriau Cymraeg yn dod at ei gilydd gan ddefnyddio rhesymeg – pa mor aml mae cytseiniaid yn codi – felly, hyd yn oed os dych chi ddim yn siarad Cymraeg ond eich bod wedi gweld arwyddion Cymraeg, gallwch chi ddyfalu’n gywir.
“Gallech chi ddechrau gyda ‘Cymru’ a gweld pa gyfuniadau sy’n bosib, felly mae pobol ddi-Gymraeg yn gallu dysgu mwy am yr wyddor Gymraeg a sillafu yn Gymraeg.”
Creu cymuned Gymraeg
Dywed Rodolfo fod gemau fel Gairglo yn hollbwysig er mwyn creu cymuned newydd o siaradwyr Cymraeg ac i ddod â nhw at ei gilydd – ac yn y pen draw i gyrraedd y nod o Filiwn o Siaradwyr.
“Mae’n bwysig dros ben oherwydd dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers blynyddoedd nawr, ond es i ati o ddifri yn ystod y cyfnod clo pan oedd hi’n anodd mynd i wersi,” meddai.
“Dw i wedi bod ar-lein dipyn, ac mae wedi helpu llawer gyda chynnwys a’r ffordd mae pobol yn rhannu straeon newyddion.
“Mae pobol wedi bod yn dweud pa mor ddefnyddiol yw’r cyfieithiadau awtomatig o negeseuon ar Twitter, sydd ddim yn hollol ddelfrydol achos dw i bob amser eisiau darllen Cymraeg wrth gwrs.
“Ond mae’n helpu pobol i greu negeseuon ar Twitter. Dw i’n trio trydar mwy yn Gymraeg, gan wybod os yw rhywun ddim yn deall, bod modd cael cyfieithiad ac o leiaf y bydd y Gymraeg yn fwy gweledol ar-lein.
“Dw i wedi cyffroi gan dechnoleg iaith, mae’n offeryn anhygoel i wella gweladwyedd.
“Un o’r teclynnau sydd gyda ni ar hir-iaith yw hi-lite, lle gallwch chi ddarllen testun heb orfod ei gyfieithu ond yn hytrach, ceisio deall sut mae brawddegau’n cael eu rhoi at ei gilydd.
“Mae’n hanfodol [i’r Miliwn o Siaradwyr].
“Athro Saesneg dw i o ran gwaith, ac mae llawer o ddeunydd a chymorth a data, a gallwch chi weld faint o gymorth yw e, a dw i’n siŵr y bydd yn helpu’r Gymraeg i gael data, ymchwil a deunyddiau.
“Mae cael corpws a thechnoleg iaith yn hollbwysig.”