Mae’r awdurdod lleol yn Sir Gâr wedi cyhoeddi cynlluniau i gynyddu treth y cyngor i ddelio â phwysau ariannol “gwirioneddol ddigynsail”.

O dan y cynlluniau, byddai’r dreth bresennol yn codi o 4.39%, er bod disgwyl i’r cyngor dderbyn £311.6m gan Lywodraeth Cymru yn 2022-23 – sy’n gynnydd o 9% ar y flwyddyn ariannol bresennol.

Fe wnaeth aelodau’r Cabinet gymeradwyo cyllideb ddrafft a fyddai’n gweld y Cyngor yn gwario £417.8m ar wasanaethau craidd fel addysg a chasglu gwastraff, tra bydd y £106.2m sy’n weddill yn cael ei gasglu drwy dreth y cyngor.

Mae’r Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau, yn credu y byddai hyn yn “ganlyniad teg a chytbwys iawn” wrth ystyried y pwysau sy’n deillio o’r pandemig a chwyddiant.

Wrth ymateb i’r cynlluniau, fe wnaeth y Cynghorydd Rob James, arweinydd y grŵp Llafur ar y Cyngor, ddweud bod y Cabinet yn cosbi teuluoedd gyda mwy o drethi er eu bod nhw’n derbyn mwy o arian gan Lywodraeth Cymru.

Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal tan Chwefror 6 i weld a yw’r cyhoedd yn hapus â’r cynlluniau, a bydd y Cabinet yn cyfarfod eto i drafod canlyniadau hynny.

Pwysau ‘gwirioneddol ddigynsail’

Fel cynghorau sir eraill ledled Cymru, mae’r awdurdod lleol yn Sir Gâr wedi dioddef oherwydd y pandemig Covid-19 a chwyddiant diweddar.

Mae’r Cyngor wedi gallu hawlio £50m yn ôl gan Lywodraeth Cymru i adfer ychydig o’r difrod mae’r pandemig wedi ei achosi.

Mae’r Cynghorydd Jenkins yn disgrifio’r system honno fel “achubiaeth ariannol”.

“Mae maint y pwysau gwariant ar lefel wirioneddol ddigynsail,” meddai.

“Byddwn yn parhau i fod angen darparu arbedion yn effeithlon.”

Ychwanegodd y byddai’n rhaid i gynghorau dalu mwy mewn cyfraddau cyflogaeth yswiriant gwladol pan ddaw’r cynnydd o 2.5% yn y dreth ar draws y Deyrnas Unedig i rym ar Ebrill 1.

Ond fe groesawodd e ac aelodau eraill y Cabinet y setliad dros dro gan Lywodraeth Cymru, sydd i’w gadarnhau ar Fawrth 1.

Fel y mae pethau ar hyn o bryd, byddai adran addysg a phlant Sir Gaerfyrddin yn derbyn £11m yn fwy na’r flwyddyn bresennol.

Gan gyfeirio at y ffigwr hwn, dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies fod hyn yn “newyddion gwych i bob un o’n hysgolion”.

‘Taro teuluoedd sydd dan bwysau’

Mae’r Cynghorydd Rob James, arweinydd yr wrthblaid Lafur, yn cwestiynu pam fod angen cynyddu trethi gyda setliad ariannol mor llewyrchus.

“Er gwaethaf derbyn y setliad gorau gan Lywodraeth Cymru ers dros ddegawd, mae cynghorwyr Plaid Cymru yn ceisio parhau â’u toriadau llym i wasanaethau cyhoeddus, tra ar yr un pryd yn taro teuluoedd sydd dan bwysau gyda rhagor o godiadau treth,” meddai.

Fe anogodd y cyhoedd i ymateb i’r ymgynghoriad, gan ddweud ei fod yn gobeithio y bydd llawer o’r toriadau arfaethedig yn cael eu gwrthdroi.

Mae’n honni nad yw trigolion yn gweld unrhyw gynnydd ar gynlluniau buddsoddi sydd wedi eu trafod ers blynyddoedd.

“Mae angen llawer llai o siarad a llawer mwy o weithredu,” meddai.