Mae Clwb Pêl-droed Merched Caerdydd “yn ffodus” na chafodd unrhyw un anafiadau wedi i garreg gael ei thaflu tuag at eu bws.

Fe darodd y garreg eu bws wrth iddyn nhw deithio yn ôl o Rydychen, taith oedd eisoes yn un llawn siom ar ôl iddyn nhw golli o 2-0 yn erbyn tîm merched Oxford United.

Roedden nhw’n teithio ar hyd yr M4 ger cylchfan Coldra pan welon nhw blant yn taflu cerrig oddi ar bont uwchben y draffordd, ac fe aeth un ohonyn nhw drwy do haul eu bws.

Er bod difrod i’r bws, a gwydr wedi malu yn ei ganol, doedd neb o’r garfan wedi dioddef anafiadau o ganlyniad i’r digwyddiad, gyda’r garreg yn glanio ar sedd wag.

Roedd gan y bws 49 o seddi, ond roedd nifer o seddi yn wag oherwydd bod chwaraewyr yn cadw pellter cymdeithasol yn unol â rheolau Covid-19.

Dywedodd rheolwr y clwb fod yr unigolion wedi ymddwyn yn “hurt ac yn beryglus iawn”, ac y gallai’r sefyllfa fod wedi bod yn waeth o lawer pe bai’r garreg wedi taro’r gyrrwr, er enghraifft.

“Ar ein ffordd yn ôl o Oxford United W.F.C. heno (nos Sul, Ionawr 17), cafodd carreg ei thaflu drwy do haul ein bws wrth yrru ar y draffordd,” meddai’r clwb ar Facebook.

“Yn ffodus, roedd pawb ar y bws yn iawn ac ar eu ffordd adref.”

‘Beth sy’n mynd ymlaen ym mhennau rhai pobol?’

Roedd James Fishlock, rheolwr y clwb, yn teithio yn ôl ar y bws gyda’i dîm pan ddaeth carreg drwy do’r bws.

“Roedden ni’n gyrru yn ôl o Rydychen ac roedd yna grŵp o blant yn taflu briciau oddi ar drosffordd ar yr M4 tua’r gorllewin,” meddai ar Twitter.

“Fe wnaeth un fynd drwy do haul y bws, ac roedd gwydr ym mhob man.

“Yn ffodus iawn, doedd dim anafiadau, ond beth sy’n mynd ymlaen ym mhennau rhai pobol?

“Mae’n hurt ac yn beryglus iawn.”