Dan Biggar fydd capten carfan rygbi Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn absenoldeb Alun Wyn Jones, gydag Adam Beard yn cael ei enwi’n is-gapten.

Ymhlith y chwaraewyr eraill sydd allan o’r garfan oherwydd anafiadau mae George North, Leigh Halfpenny, Ken Owens, Josh Navidi, Justin Tipuric a Taulupe Faletau.

Mae tri chwaraewr sydd heb gapiau yn y garfan, sef Dewi Lake (bachwr), Jac Morgan (rheng ôl) a James Ratti (rheng ôl).

Gallai pum chwaraewr arall wneud eu hymddangosiadau cyntaf yn y Chwe Gwlad, gan gynnwys Bradley Roberts a Christ Tshiunza a wnaeth eu hymddangosiad rhyngwladol cyntaf yng Nghyfres y Cenhedloedd yn yr hydref.

Gallai Ross Moriarty ac Alex Cuthbert ennill eu 50fed cap yn ystod yr ymgyrch, a gallai Jonathan Davies gyrraedd y garreg filltir o 100 gêm brawf.

“Rydym wedi cyffroi o ddod yn ôl at ein gilydd fel carfan pan fyddwn yn cwrdd ddydd Llun,” meddai’r prif hyfforddwr Wayne Pivac.

“Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gystadleuaeth arbennig iawn ac rydym am fynd allan i ennill, fel pob cenedl arall.

“Rygbi twrnament ydi hyn, felly mae’n ymwneud â gweithio’n galed wrth ymarfer a pharatoi’n dda bob wythnos.”

Dan Biggar am wneud “gwaith gwych”

“O ran capten rydym wedi enwi Dan Biggar,” meddai Wayne Pivac wedyn.

“Gyda’r profiad ar goll yn sgil y ffaith fod rhai chwaraewyr allan wedi’u hanafu, roeddem am gael rhywun a oedd wedi profi’r gystadleuaeth ar sawl achlysur ac sy’n ymwybodol o’r heriau mae’n eu cynnig.

“Mae e’n rhoi hynny i ni – mae ganddo fe 95 o gapiau dros Gymru ac mae wedi teithio gyda’r Llewod Prydeinig a Gwyddelig.

“Mae gan Dan barch y chwaraewyr a’r hyfforddwyr, felly rydyn ni’n credu y bydd yn gwneud gwaith gwych.”

Fe fydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch oddi cartref yn Iwerddon ar Chwefror 5.

Carfan Cymru:

Blaenwyr: Rhys Carre, Wyn Jones, Gareth Thomas, Ryan Elias, Dewi Lake, Bradley Roberts, Leon Brown, Tomas Francis, Dillon Lewis, Adam Bear, Ben Carter, Seb Davies, Will Rowlands, Christ Tshiunza, Taine Basham, Ellis Jenkins, Jac Morgan, Ross Moriarty, James Ratti, Aaron Wainwright.

Olwyr: Gareth Davies, Kieran Hardy, Tomos Williams, Gareth Anscombe, Dan Biggar (capten), Rhys Priestland, Callum Sheedy, Jonathan Davies, Willis Halaholo, Nick Tompkins, Owen Watkin, Josh Adams, Alex Cuthbert, Louis Rees-Zammit, Johnny McNicholl, Liam Williams.