Mae achos llys Ryan Giggs wedi ei ohirio tan yr haf am nad oes ystafell ar gael i glywed yr achos.
Roedd Giggs, 47, i fod i sefyll ei brawf ddydd Llun (Ionawr 24), ar ôl cael ei gyhuddo o ymosod ar ei gyn-bartner ac ymddwyn mewn ffordd oedd yn ei rheoli.
Mae’n gwadu’r cyhuddiadau.
Ond dywedodd barnwr nad oedd modd cynnal yr achos oherwydd diffyg amser llys, gydag achosion eraill yn gorfod cael blaenoriaeth.
Mae’r achos bellach wedi’i drefnu i ddechrau ar Awst 8.
Dywed ei fargyfreithiwr fod Giggs yn “hynod siomedig” gyda’r penderfyniad.
“Yn anffodus, mae wedi dod yn angenrheidiol i adael yr achos hwn o’r rhestr ar gyfer dydd Llun nesaf,” meddai’r Barnwr Hilary Manley.
“Mae gen i ofn bod yn rhaid i achosion eraill gymryd blaenoriaeth dros yr un yma.”
Achosion eraill
Dywedodd y barnwr bod achosion eraill sy’n cael blaenoriaeth yn cynnwys y rhai oedd yn cynnwys honiadau o dreisio, lle mae diffynyddion yn y ddalfa a lle’r oedd yr achos eisoes wedi’i ohirio unwaith.
Dywedodd y Barnwr Manley ei bod yn ymwybodol o’r “gofid a’r ansicrwydd” y gallai’r penderfyniad ei achosi.
“Yn anffodus oherwydd yr ôl-groniad mawr o achosion, sydd wedi’i waethygu gan y pandemig, mae hon yn sefyllfa sy’n realiti dyddiol i’r llysoedd troseddol,” meddai.
“Y cyfan yr hoffwn ei ddweud ar ran Mr Giggs yw ei fod yn hynod siomedig,” meddai Chris Daw QC ar ran Ryan Giggs.
“Rwyf, wrth gwrs, wedi esbonio iddo’r holl ffeithiau a amlinellwyd gan Eich Anrhydedd ar ddechrau’r gwrandawiad.”
Doedd Ryan Giggs, o Chatsworth Road, Worsley, Salford, ddim yn y gwrandawiad yn Llys y Goron Manceinion, ac mae’n dal ar fechnïaeth amodol.
Rob Page yn parhau’n rheolwr
Yn dilyn y cyhoeddiad, daeth cadarnhad y bydd Rob Page wrth y llyw o hyd ar gyfer gemau ail gyfle Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Dydy Giggs ddim wedi bod yn y swydd ers mis Tachwedd 2020 ar ôl cael ei arestio.
Cafodd Page ei benodi dros dro bryd hynny, ac fe gyrhaeddodd Cymru rownd 16 ola’r Ewros haf diwethaf, ac fe gawson nhw ddyrchafiad i haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd.
Mae Page wedi dweud mai hon yw’r “swydd orau yn y byd” a’i fod e’n cymryd “un gêm ar y tro” wrth “ymrwymo’n llawn” i’r swydd dros dro.
Dydy Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddim wedi gwneud sylw hyd yn hyn.
Bydd Cymru’n herio Awstria yng Nghaerdydd ar Fawrth 24, gyda’r enillwyr yn herio’r Wcráin neu’r Alban bum niwrnod yn ddiweddarach am le yng Nghwpan y Byd 2022 yn Qatar.