Mae Andy Turner wedi’i enwi’n rheolwr llawn amser Clwb Pêl-droed Derwyddon Cefn.

Fe sydd wedi bod wrth y llyw mewn rôl dros dro ers i Niall McGuinness adael y clwb ym mis Medi.

Mae’r clwb hynaf yng Nghymru ar waelod y Cymru Premier gyda dau bwynt, a heb ennill yr un gêm y tymor hwn.

“Rwy’n falch iawn o gael y golau gwyrdd i fynd â’r clwb ymlaen ynghyd â’r grŵp gwych o bobol o’m cwmpas,” meddai Andy Turner.

Bydd yn cyfuno’i ddyletswyddau tîm cyntaf â’i rôl lawn amser yn bennaeth hyfforddi.

Ei dîm hyfforddi – Gareth Flitcroft, Luke Bailey, Levi Challoner a Sue Jones – fydd yn cyflawni rhan fwyaf dyletswyddau’r tîm cyntaf o ddydd i ddydd.

Mae gêm nesaf Derwyddon Cefn gartref yn erbyn Caernarfon ddydd Gwener (Ionawr 21).