Mae adroddiadau bod Abertawe yn gobeithio denu Hannes Wolf, chwaraewr canol cae Borussia Monchengladbach, ar fenthyg.

Mae Wolf wedi chwarae wyth gwaith i glwb y Bundesliga y tymor hwn, ond dydy e ddim wedi ymddangos ers mis Hydref.

Bydd yn cael gadael yr Almaen i chwilio am bêl-droed reolaidd, yn ôl adroddiadau.

Byddai Wolf yn ychwanegiad i opsiynau ymosodol Abertawe, yn enwedig o ystyried yr amheuon ynghylch dyfodol Jamie Paterson.

Mae Paterson wedi sgorio wyth gôl i’r Elyrch y tymor hwn, ond mae wedi cael ei gysylltu â throsglwyddiad y mis hwn, ar ôl dweud wrth Abertawe nad oedd e’n barod i chwarae yn erbyn Huddersfield y penwythnos diwethaf.

Mae Huddersfield ymhlith llond llaw o glybiau a allai fod â diddordeb yn Paterson, ynghyd â Queens Park Rangers a Blackburn Rovers.

Pe bai Abertawe’n sicrhau’r trosglwyddiad, gallai Wolf gyrraedd Cymru mewn pryd ar gyfer gêm yr Elyrch yn erbyn Preston North End ddydd Sadwrn (Ionawr 22).