Ottis Gibson, cyn-fowliwr cyflym Morgannwg, yw prif hyfforddwr newydd Clwb Criced Swydd Efrog, ar ôl llofnodi cytundeb tair blynedd.

Fe fu’r dyn 52 oed o India’r Gorllewin yn brif hyfforddwr India’r Gorllewin a De Affrica yn y gorffennol, yn ogystal â bod yn hyfforddwr bowlio Lloegr.

Bydd e’n dechrau yn y swydd ar ddiwedd mis Chwefror ar ôl i’r Pakistan Super League ddod i ben, ac yntau’n gweithio gyda’r Multan Sultans ar hyn o bryd.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Swydd Efrog ymadawiadau 16 aelod o staff hyfforddi’r clwb o ganlyniad i’r ymchwiliad i honiadau o hiliaeth yn y sir gan Azeem Rafiq.

Yn eu plith roedd y Cyfarwyddwr Criced Martyn Moxon a’r prif hyfforddwr Andrew Gale.

Darren Gough, cyn-fowliwr cyflym Lloegr a Swydd Efrog, yw rheolwr gyfarwyddwr dros dro’r sir erbyn hyn, a bydd e’n rheolwr llinell ar Ottis Gibson.

Mae disgwyl i ddau is-hyfforddwr gael eu penodi maes o law i gynorthwyo Gibson.

Treuliodd Gibson, sy’n hanu o Barbados, ddau dymor gyda Morgannwg yn 1994 a 1996, ac fe chwaraeodd e i siroedd Durham a Chaerlŷr hefyd.

Cynrychiolodd e India’r Gorllewin mewn dwy gêm brawf a 15 o gemau undydd.

“Dw i’n freintiedig dros ben ac wedi cyffroi o gael y cyfle i ymuno â Chlwb Criced Swydd Efrog yn brif hyfforddwr,” meddai.

“Mae hon yn un o’r swyddi mwyaf breintiedig yng nghriced sirol Lloegr, a dw i wir yn edrych ymlaen at gydweithio â’r grŵp talentog hwn o chwaraewyr i symud y clwb yn ei flaen.

“Dw i wedi siarad yn hir â Goughy ynghylch y cyfeiriad mae’r clwb yn symud iddo, a dw i wedi cyffroi o gael bod yn rhan o’r dyfodol hwnnw.”

 

Rhagor am helynt hiliaeth Swydd Efrog:

Azeem Rafiq

Argymell atal arian cyhoeddus i griced oni bai bod yr awdurdodau’n mynd i’r afael â hiliaeth

Pwyllgor seneddol wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn ymchwiliad i helynt Azeem Rafiq, cyn-chwaraewr Clwb Criced Swydd Efrog
Azeem Rafiq

Swydd Efrog “wedi gwneud digon” i gael criced rhyngwladol yn ôl, medd Azeem Rafiq

Arweiniodd honiadau’r cyn-chwaraewr o hiliaeth at ddiswyddo’r tîm hyfforddi ac ymadawiad y cadeirydd a’r prif weithredwr
Azeem Rafiq

Hyfforddwr dros dro Swydd Efrog yn ymddiheuro am awgrymu y dylid “anghofio” am yr helynt hiliaeth

Ryan Sidebottom yn cyfaddef iddo ddewis “geiriau gwael” wrth siarad â Sky Sports
Azeem Rafiq

Clwb Criced Swydd Efrog wedi’i gefeillio gyda thîm o Bacistan ar ôl helynt hiliaeth

Gobaith y bydd y bartneriaeth gyda’r Lahore Qalandars yn “lleihau’r rhwystrau i bobol ifanc” o’r gymuned Asiaidd i fentro i’r byd criced
Azeem Rafiq

Ymchwiliad annibynnol i lywodraethiant Clwb Criced Swydd Efrog

Fe ddaw yn sgil yr honiadau diweddar o hiliaeth sefydliadol

Rhagor am Ottis Gibson:

ECB

Cyn-chwaraewr amryddawn Morgannwg yn llygadu prif swydd Lloegr

Ottis Gibson yn awyddus i olynu Trevor Bayliss, y prif hyfforddwr
Logo Golwg360

Cyn-fowliwr cyflym Morgannwg yw prif hyfforddwr De Affrica

Ottis Gibson yn gadael tîm hyfforddi Lloegr ar ddiwedd y gyfres yn erbyn India’r Gorllewin