Bydd tocynnau ar gyfer gemau ail gyfle Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 yn mynd ar werth ar Chwefror 7.

Mae tîm Rob Page yn ceisio cymhwyso ar gyfer cystadleuaeth fwya’r byd pêl-droed ryngwladol am y tro cyntaf ers 1958, pan gyrhaeddon nhw rownd yr wyth olaf.

Bydd Cymru’n herio Awstria ar Fawrth 24, cyn herio naill ai’r Alban neu’r Wcráin ar Fawrth 29 yn y rownd derfynol am le yn y twrnament.

Bydd y ddwy gêm ar eu tomen eu hunain yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda phris y tocynnau’n amrywio o £5 i blant bach, oedolion ifainc, £20 i bensiynwyr a £30 i oedolion iau.

Bydd elw o rai o’r tocynnau’n mynd i glybiau ar lawr gwlad fel rhan o weledigaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru i dyfu’r gêm ledled Cymru, ac felly mae rhai prisiau wedi cynyddu i gyrraedd y nod yma.

Mae modd cael manylion y tocynnau’n llawn drwy fynd i wefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru.