Mae naw o chwaraewyr tîm rygbi merched Cymru wedi cael cytundebau cadw, lled-broffesiynol, ac wedi ymuno â rhaglen berfformio Undeb Rygbi Cymru.

Daw hyn ar ôl i 12 o chwaraewyr dderbyn cytundebau blwyddyn wrth i gytundebau proffesiynol ddod i rym yng ngêm rygbi’r merched yng Nghymru am y tro cyntaf erioed.

Dywed Siwan Lillicrap, capten tîm rygbi merched Cymru, y bydd y cytundebau newydd yn “newid bywydau” y chwaraewyr.

Bydd y blaenwyr Gwen Crabb, Georgia Evans, Kat Evans, Cerys Hale, Abbie Fleming a Bethan Lewis, ynghyd â’r olwyr Kerin Lake, Caitlin Lewis a Niamh Terry yn ymarfer ochr yn ochr â’r 12 chwaraewr llawn amser rhwng un a thri diwrnod yr wythnos.

Bydd hyd at chwe chwaraewr arall ar gytundebau cadw yn cael eu hychwanegu yn ystod yr wythnosau nesaf.

‘Ychwanegiad hanfodol’

“Mae’r chwaraewyr hyn yn ychwanegiad hanfodol i’n rhaglen berfformio,” meddai Ioan Cunningham, prif hyfforddwr tîm merched Cymru.

“Roedd rhai ohonyn nhw’n agos iawn at gael cynnig cytundebau llawn amser, a gwnaeth pob un ohonyn nhw gyfraniad enfawr i’n hymgyrch yn yr hydref, ar y cae ac yn yr amgylchedd hyfforddi felly maen nhw i gyd yn haeddu’r cyfle hwn.

“Yn y pen draw, mae’r cytundebau cadw yn rhoi cyfle i gael mwy o amser cyswllt gyda mwy o chwaraewyr a fydd yn gadarnhaol iawn.

“Mae’n rhoi’r gallu i’r chwaraewyr ddysgu mwy am y gêm, i gwblhau mwy o sesiynau hyfforddi, gwella eu cryfder a’u ffitrwydd ynghyd â meysydd eraill a fydd yn cyfrannu at berfformiad y tîm.

“Rydym yn teimlo bod gennym y model cywir er budd ein rhaglen tra’n galluogi chwaraewyr ar gytundebau cadw i gyflawni eu hymrwymiadau gwaith. Mae’n gyfle i chwaraewyr ddatblygu’n unigol wrth herio ei gilydd.

“Rydym yn falch o’r berthynas rydym yn ei meithrin gyda chlybiau Allianz Premier 15s, rydym yn rheoli eu cynlluniau hyfforddi a chwarae gyda blaenoriaeth ar les chwaraewyr.”

Cytundebau proffesiynol i ferched rygbi Cymru am y tro cyntaf

Daeth 12 o gytundebau blwyddyn i rym yr wythnos hon

Cytundebau llawn amser “am newid bywydau” chwaraewyr rygbi merched Cymru

“Rydyn ni mewn amgylchedd hyfforddi’n amlach ac rydyn ni yn broffesiynol nawr,” medd capten Cymru