Mae prop o Gaerfyrddin yng ngharfan rygbi’r Alban ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Mae Javan Sebastian yn chwarae ei rygbi gyda rhanbarth y Scarlets, ac mae’n gymwys i chwarae i’r Albanwyr oherwydd i’w dad gael ei eni yng Nghaeredin.

Enillodd ei gap cyntaf dros yr Alban ym mis Tachwedd y llynedd wedi iddo ddod oddi ar y fainc yn erbyn Japan yng Nghyfres yr Hydref.

Roedd eisoes wedi chwarae i dimau dan 16 a dan 18 Cymru, ond chafodd e mo’i enwi yn y tîm cyntaf cyn cael ei alw gan brif hyfforddwr yr Alban, Gregor Townsend.

Efallai y bydd yn cael ei enwi i wynebu Cymru ar gyfer eu hail gêm yn y Chwe Gwlad ar ddydd Sadwrn, Chwefror 12, ond bydd rhaid iddo ddisodli chwaraewyr mwy profiadol fel Zander Fagerson a WP Nel i allu gwneud hynny.

Y Sgotyn o Sir Gâr

Fe dorrodd y gŵr 27 oed i mewn i academi’r Scarlets ar ôl chwarae i’r ddau dîm rygbi yn ei dref enedigol – y Cwins a’r Athletic – cyn croesi Cwm Gwendraeth i chwarae gyda chlwb rygbi Llanelli.

Ar ôl treulio blwyddyn gyda’r Scarlets yn 2015, fe symudodd i wlad ei dad ac arwyddo gyda Glasgow Warriors.

Dychwelodd i Lanelli erbyn tymor 2017-18, ac mae wedi ymddangos sawl gwaith i’r rhanbarth ers hynny.

Sebastian fydd yr unig chwaraewr o’r rhanbarth i ymddangos yng ngharfan un arall o wledydd y Chwe Gwlad ar wahân i Gymru, gyda saith chwaraewr y rhanbarth yn ymddangos i gyd.

Yn ei garfan a gafodd ei chyhoeddi ddoe (dydd Mercher, 18 Ionawr), fe ddewisodd Wayne Pivac y chwaraewyr rheng flaen Wyn Jones a Ryan Elias, y mewnwyr Gareth Davies a Kieran Hardy, yn ogystal â’r olwyr Jonathan Davies, Johnny McNicholl a Liam Williams.

Fe ddymunodd y Scarlets yn dda i Javan Sebastian ar gyfer y bencampwriaeth.