Mae Phil Salt, a gafodd ei eni ym Modelwyddan, yn dweud y byddai’n deimlad “arbennig iawn” i gael cynrychioli tîm criced Lloegr am y tro cyntaf yn y Caribî.

Wedi’i eni yn y gogledd, symudodd y teulu i Barbados pan oedd e’n naw oed ac fe dreuliodd e chwe blynedd yn byw ar yr ynys.

Ar y pryd, pêl-droed oedd ei ddiddordeb pennaf ond efallai ei bod hi’n anochel bod ei sylw wedi troi at y byd criced wedyn.

Mae Lloegr yn chwarae mewn cyfres o bum gêm ugain pelawd yr wythnos hon – rhwng dydd Sadwrn (Ionawr 22) a dydd Sul nesaf (Ionawr 30), a hynny yn fuan iawn ar ôl i’r tîm prawf golli Cyfres y Lludw yn Awstralia.

“Bydd hi’n arbennig iawn,” meddai batiwr a wicedwr Swydd Gaerhirfryn a ddechreuodd ei yrfa gyda Sussex.

“Mi wyliais i lawer o griced ar y cae hwn wrth dyfu i fyny.

“Bob noson o’r wythnos, roedd gen i rywle arall i fynd i chwarae neu ymarfer, a chriced oedd hi ar y penwythnos eto.

“Cyn hynny yn y Deyrnas Unedig, roeddwn i wedi bod yn canolbwyntio’n bennaf ar bêl-droed a rhywfaint o griced, yn cael bwrw pêl gan fod fy mrawd yn chwarae, ond symudodd fy sylw ar ôl dod allan yma.”

Lludw 2005

Gadawodd Phil Salt yr ynys yn ei arddegau ar ôl cael ysgoloriaeth i fynd i astudio yn Ysgol Reed’s yn Surrey.

Ond hyd yn oed pe bai e wedi aros, mae’n dweud na fyddai wedi troi at India’r Gorllewin i gael chwarae criced rhyngwladol fel y byddai wedi bod yn gymwys i’w wneud ar ôl cael ei fagu yno.

Yn wir, cafodd ei ysbrydoli gan Loegr yn ystod Cyfres y Lludw 2005 cyn iddo symud i’r Caribî.

Bum mlynedd yn ddiweddarach, pan gododd Lloegr dlws ugain pelawd IT20 y Byd, cafodd ei ysbrydoli unwaith eto ar ôl derbyn crys Michael Clarke, capten Awstralia.

“Yna, daeth Colly [Paul Collingwood, capten Lloegr sydd bellach yn hyfforddwr] gyda’r tlws ac wrth iddo fo fynd heibio, dywedodd o, ‘Dyma chi hogiau, cyffyrddwch o tra gallwch chi’. Mi wnes i ei gyffwrdd o.”

A nawr mae gan Phil Salt gyfle i wisgo’r crys go iawn yn absenoldeb rhai o’r sêr fel Jos Buttler, Dawid Malan a Jonny Bairstow.

“Mae’r cyfleoedd gewch chi’n gyfyngedig felly rhaid i chi eu cymryd nhw unwaith fedrwch chi oherwydd fyddan nhw ddim yn dod o hyd ac o hyd,” meddai.

“Os cewch chi fewn, rhaid i chi ddangos i bawb eich bod chi’n ddigon da i berthyn ar y lefel yna.”