Bydd tîm pêl-droed merched Cymru yn cystadlu yng Nghwpan Pinatar am y tro cyntaf fis nesaf.

Fel rhan o’r bencampwriaeth, bydd carfan Gemma Grainger yn chwarae tair gêm ryngwladol ym mis Chwefror.

Yr Alban fydd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru yn y bencampwriaeth, sy’n cynnwys wyth tîm ac yn cael ei chynnal yn Sbaen.

Bydd y gêm honno’n cael ei chynnal ar Chwefror 16.

Fe wnaeth y ddau dîm gyfarfod ddiwethaf mewn gêm gyfeillgar ym mis Mehefin yn Llanelli pan enillodd yr Alban o 1-0.

Bydd Cymru’n chwarae tair gêm yn ystod yr wythnos honno, wrth iddyn nhw geisio cyrraedd y rownd derfynol.

Gwlad Belg neu Slofacia fydd eu hail wrthwynebwyr, gyda’r gêm honno’n cael ei chynnal ar Chwefror 19, eto yn nhref San Pedro del Pinatar yn nhalaith Murcia yn ne ddwyrain Sbaen.

Bydd Cymru wedyn yn chwarae, naill ai yn erbyn Rwsia, Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Iwerddon neu Hwngari, ar Chwefror 22.

Paratoadau Cwpan y Byd

Bydd y tair gêm yn “gyfle i ni barhau gyda’n paratoadau” i gyrraedd Cwpan y Byd Merched FIFA yn 2023, yn ôl Gemma Grainger, rheolwr Cymru.

Mae’r tîm yn yr ail safle yn y grŵp rhagbrofol ar hyn o bryd, ar drothwy’r gêm yn erbyn Ffrainc, sydd ar frig y grŵp, ar Ebrill 8.

“Mae’n gyfle i ni chwarae yn erbyn timau cryf, rhywbeth ni’n edrych i wneud pryd bynnag sy’n bosib,” meddai Gemma Grainger.

“Mae’r chwaraewyr yn edrych ymlaen at Pinatar.

“Fydd e’n awyrgylch dda i ni i ddod yn gyfarwydd a chwarae nifer o gemau mewn amser byr, sydd yn brofiad gwych ar gyfer y pencampwriaethau mawr, ar ac oddi ar y cae.”