Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n chwarae ar gae San Helen yn 2022, wrth i Orielwyr San Helen ddathlu eu hanner canmlwyddiant.

Yn ôl y sir, dydy’r cyfleusterau ddim bellach yn ddigon da i gynnal criced sirol yn Abertawe, ond byddan nhw’n cadw criced yn y de-orllewin drwy fynd i gae’r Gnoll yng Nghastell-nedd.

Mae’r Cynghorydd Rob Stewart, arweinydd Cyngor Abertawe, wedi trydar yn mynegi ei siom na fydd criced sirol yn Abertawe eleni.

Cafodd yr Orielwyr eu sefydlu fel clwb cefnogwyr yn 1972, ac maen nhw wedi sicrhau parhad criced yn Abertawe a’r de-orllewin ers rhai blynyddoedd wrth i ran fwya’r gemau gael eu cynnal ym mhencadlys y sir yng Nghaerdydd erbyn hyn.

Does dim sicrwydd eto y bydd gêm yn Llandrillo-yn-Rhos na Chasnewydd chwaith, ac mae’r sir yn dweud bod trafodaethau ynghylch y caeau allanol yn parhau.

Bydd y tymor yn dechrau ar Ebrill 7, gyda gêm Bencampwriaeth yn erbyn Durham yng Nghaerdydd, gyda chwe gêm pedwar diwrnod yn cael eu cynnal yn Ebrill a Mai.

Byddan nhw wedyn yn troi eu sylw at gemau undydd, gyda’r gystadleuaeth ugain pelawd, y Vitality Blast, yn 20 oed eleni.

Bydd y gystadleuaeth honno’n cael ei chynnal rhwng Mai 25 a Gorffennaf 16, gyda Morgannwg yn dechrau oddi cartref yn Sussex ar Fai 26.

Bydd gan Forgannwg saith gêm gartref wedyn, gan ddechrau yn erbyn Essex yng Nghaerdydd ar Fehefin 2, tra byddan nhw’n croesawu Gwlad yr Haf ar Fehefin 24 ar gyfer “yr Ornest Fawr”.

Bydd y gystadleuaeth 50 pelawd, Cwpan Royal London, yn dechrau ar Awst 2 gyda thaith i Derby wrth i Forgannwg geisio amddiffyn eu teitl, a byddan nhw’n herio Sir Genedlaethol Cymru mewn gêm baratoadol ar Orffennaf 31.

Bydd y gêm gartref gyntaf yn erbyn Caint ar Awst 4, ond does dim lleoliad wedi’i gadarnhau hyd yn hyn.

Bydd Morgannwg yn dychwelyd i Gastell-nedd am y tro cyntaf ers 1995, gyda gemau yn erbyn Swydd Gaerhirfryn (Awst 17) a Hampshire (Awst 19).

Bydd y gemau olaf yn y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerwrangon (Medi 8) a Swydd Derby (Medi 20) cyn i’r tymor orffen oddi cartref yn Sussex.

Ymateb

“Yn anffodus, dydyn ni ddim yn gallu chwarae yn San Helen eleni, gyda’r cyfleusterau ddim bellach yn gallu cefnogi cynnal criced domestig yn y lleoliad,” meddai Dan Cherry, Pennaeth Gweithrediadau Clwb Criced Morgannwg.

“Fodd bynnag, rydym yn falch o allu parhau i gynnal criced yng ngorllewin Cymru, wrth ddychwelyd i’r Gnoll yng Nghastell-nedd am y tro cyntaf ers 27 o flynyddoedd.

“Rydym yn parhau i drafod gyda’n caeau allanol eraill i fesur dichonadwyedd cynnal gemau yn eu lleoliadau o ystyried yr effaith gafodd pandemig Covid-19 ar adnoddau gwirfoddolwyr ac isadeiledd lleol.

“Byddwn yn cadarnhau’r holl leoliadau ar gyfer ein gemau cartref cyn gynted ag y daw’r trafodaethau hyn i ben.”

Wrth ymateb i gais golwg360, dywedodd llefarydd ar ran Clwb Criced Morgannwg na fyddan nhw’n gwneud sylw pellach.

Gemau Morgannwg yn llawn ar gyfer 2022