Mae dau o gefnogwyr Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi’u gwahardd rhag mynd i gemau am dair blynedd ar ôl rhedeg ar y cae yn ystod gêm.

Cafwyd Darryl Curtis, 40 oed o Dreorci, a Keiron Walsh, 21 oed o Gasnewydd, yn euog o fynd ar y cae heb awdurdod nac esgus yn ystod gêm yn erbyn Brighton, a hynny’n groes i Ddeddf (Troseddau) Pêl-droed 1991.

Aethon nhw ar y cae ar adegau gwahanol yn ystod y gêm yng Nghwpan Carabao ar Awst 24 y llynedd, gan orfodi’r dyfarnwr i ddod â’r gêm i stop am gyfnod.

Aeth y ddau gerbron Llys Ynadon Caerdydd i wynebu’r cyhuddiadau ac i bledio’n euog.

Cafodd Walsh ddirwy o £160 a chostau gwerth £85, tra bod Curtis wedi cael dirwy o £120 a chostau gwerth £85.

Bydd yn rhaid iddyn nhw ildio’u pasbort i’r heddlu ar gyfer gemau oddi cartref Cymru.

Cafodd llanc 15 oed waharddiad gan y clwb hefyd.

Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n gobeithio y bydd yr achos yn atal pobol rhag gwneud rhywbeth tebyg eto, ac mae Clwb Pêl-droed Caerdydd yn dweud bod ganddyn nhw gyfrifoldeb i gadw’r cefnogwyr yn ddiogel yn y stadiwm.