Mae Nathan Blake, cyn-ymosodwr tîm pêl-droed Cymru, yn rhybuddio y gallai chwaraewyr orfod ffurfio undeb oni bai bod yr awdurdodau’n mynd i’r afael â hiliaeth.

Yn ôl y pyndit oedd wedi sgorio pedair gôl mewn 30 o gemau dros ei wlad rhwng 1994 a 2003, dydy hi ddim bellach yn ddigon i ddweud wrth chwaraewyr “sgoriwch gôl i wneud iddyn nhw gau eu pennau”.

Mae’n rhybuddio y gallai chwaraewyr du wrthod chwarae yng nghystadlaethau Ewrop a Chwpan y Byd.

“Wrth i fi fynd yn hŷn, dw i wedi dechrau meddwl fwyfwy fod un neu ddau o bethau’n mynd i ddigwydd,” meddai Blake mewn rhaglen ddogfen ar gyfer BBC Radio Wales.

“Gall fod undeb i chwaraewyr du a dw i’n meddwl ei fod e’n mynd i gyrraedd pwynt lle mae chwaraewyr du yn mynd i ddweud, ‘Dw i ddim eisiau chwarae yn eich Cwpan Byd, dw i ddim eisiau chwarae ym Mhencampwriaeth Ewrop’.

“Does dim cytundeb gyda chi i chwarae pêl-droed ryngwladol, felly bydd rhaid i fy nghlwb naill ai fy nghefnogi i neu fynd yn fy erbyn i.

“Nawr, os oes saith neu wyth chwaraewr du yn y tîm a’n bod ni i gyd ar yr un dudalen, mae hynny’n mynd i fod yn ddatganiad pwerus iawn.”

Profiad personol

Dywed Blake, sy’n 49 oed, ei fod yntau wedi profi hiliaeth yn ystod ei yrfa.

Chwaraeodd e dros 500 o gemau i Gaerdydd, Sheffield United, Bolton, Blackburn, Wolves, Caerlŷr, Leeds a Chasnewydd.

“Mae pobol yn dal ei gredu ei fod e’n dderbyniol,” meddai am hiliaeth.

“Doeddwn i byth yn deall sut oedd e’n dod gan eich cyd-chwaraewyr eich hun a’r strwythur rheoli.

“Ro’n i bob amser yn dweud, pe bai’r hyfforddwr yn dweud wrth yr holl chwaraewyr, ‘Os ydych chi’n galw enwau arno fe, rydych chi allan’, yna mae’n stopio.”

Rob Earnshaw

Un arall sy’n dweud iddo gael ei sarhau’n hiliol yn ystod ei yrfa yw’r cyn-ymosodwr Rob Earnshaw.

Dywed iddo fod yn destun synnau mwnci mewn gemau rhyngwladol oddi cartref, ac mae yntau hefyd yn feirniadol o’r awdurdodau.

“Mae gan FIFA ffordd wael o fynd i’r afael â hiliaeth, ffordd wael o’i gydnabod e hyd yn oed,” meddai.

“Ticio bocs yw e, mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth.

“Rhowch ddirwy o £10,000 iddyn nhw, ewch â nhw allan o’r stadiwm am un gêm a symudwch ymlaen oherwydd mae gyda ni fusnes i’w redeg.

“Ond mae gan y chwaraewyr lawer o rym a mwy o ddylanwad erbyn hyn.

“Mae ganddyn nhw fwy o lais oherwydd y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae chwaraewyr iau yn fwy ymwybodol o’u llwyfan ac mae hynny’n wych.”

Brwydr pêl-droed yn erbyn hiliaeth yn dal i fod “mewn lle tywyll” – medd cyn-ymosodwr Caerdydd

“Mae hiliaeth mor amlwg ar y cyfryngau cymdeithas nes ei fod yn dod law yn llaw,” yn ôl Cameron Jerome

Gareth Bale yn barod i foicotio’r cyfryngau cymdeithasol oherwydd cam-drin ar-lein

“Rwy’n credu y bydd hynny’n atal pobl rhag dweud pethau oherwydd yna byddwch yn gallu eu holrhain a’u dal yn atebol”
Ben Cabango

Facebook yn cau cyfrifon wedi i bêl-droedwyr Cymru dderbyn camdriniaeth hiliol

Gareth Bale yn ychwanegu ei lais a’r cwmni’n dweud eu bod wedi ymrwymo i “wneud mwy”