Fydd Kieffer Moore ddim ar gael am y bedwaredd gêm yn olynol, wrth i Gaerdydd herio Bristol City oddi cartref fory (dydd Sadwrn, Ionawr 22, 12.30yp).

Fe wnaeth ymosodwr Cymru anafu ei ffêr yn Bournemouth fis diwethaf, ac mae e newydd ddechrau ymarfer eto ar ôl deg diwrnod allan â Covid-19.

Ond gallai Tommy Doyle chwarae am y tro cyntaf ar ôl ymuno ar fenthyg o Manchester City am weddill y tymor.

Symudodd e i Gymru ddoe, gan ddilyn y cefnwr Cody Drameh, sydd ar fenthyg o Leeds.

O safbwynt y gwrthwynebwyr, byddan nhw heb Matty James ar ôl iddo anafu ei droed eto.

Ond mae disgwyl i Joe Williams chwarae eto am y tro cyntaf ers deufis ar ôl gwella o anaf i linyn y gâr.

Bydd Bristol City heb Tyreeq Bakinson, sydd wedi ymuno ag Ipswich ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.