Mae disgwyl i James Rowberry, rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, ddychwelyd i’r ystlys ar gyfer y gêm yn erbyn Scunthorpe yn Rodney Parade fory (dydd Sadwrn, Ionawr 22).

Mae e wedi gwella o Covid-19, fel ei gapten Matt Dolan, sydd hefyd ar gael ar gyfer y gêm.

Doedd yr amddiffynnwr ddim wedi gorffen ei gyfnod o hunanynysu mewn da bryd ar gyfer y fuddugoliaeth o 4-0 dros Harrogate yr wythnos ddiwethaf.

Fe fydd ffitrwydd y chwaraewr canol cae Robbie Willmott yn cael ei fonitro wrth iddo barhau i wella o anaf i’w benglin.

Mae disgwyl i’r amddiffynnwr canol Josh Pask gael ei ddewis eto ar ôl gêm gyntaf glodwiw yn dilyn ei drosglwyddiad ar fenthyg o Coventry.

Ond mae amheuon am yr ymosodwyr Lewis Collins a Timmy Abraham oherwydd salwch.

Bydd y gwrthwynebwyr heb Hayden Hackney, sydd wedi’i wahardd am chwe gêm ar ôl poeri at wrthwynebydd yn y gêm yn erbyn Caerwysg yr wythnos ddiwethaf.

Mae disgwyl i Luke Matheson barhau yn safle’r cefnwr de yn dilyn ei gêm gyntaf yr wythnos ddiwethaf ar ôl symud ar fenthyg o Wolves.

Mae disgwyl i’r amddiffynnwr Manny Onariase gadw ei le hefyd.

Ond mae gan Scunthorpe restr hir o anafiadau, gyda’r cefnwr chwith Lewis Thompson yn eu plith.