Mae disgwyl i Ched Evans, cyn-ymosodwr Cymru, ddychwelyd i dîm Preston i ddechrau’r gêm yn erbyn Abertawe yn Stadiwm Swansea.com fory (dydd Sadwrn, Ionawr 22).
Daeth e oddi ar y fainc i greu un o ddwy gôl ei dîm yn eu gêm gyfartal 2-2 yn erbyn ei hen glwb Sheffield United ganol yr wythnos.
Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd Andrew Hughes ar gael yn dilyn ei gerdyn coch am lorio cyn-ymosodwr Abertawe Rhian Brewster, ac mae disgwyl i Preston apelio yn erbyn y penderfyniad fel y bydd e ar gael.
Mae Matthew Olosunde ar gael eto ar ôl bod allan am saith wythnos ag anaf i’w goes.
Mae Josh Earl ar gael eto ar ôl dwy gêm allan, ond bydd Josh Murphy a Ryan Ledson yn cael eu hasesu wrth geisio dychwelyd yn holliach.
Ffrae fawr yr Elyrch
Mae’r ffrae ynghylch cytundeb Jamie Paterson yn gysgod tros baratoadau Abertawe o hyd.
Mae e wedi sgorio wyth gôl ers ymuno â’r Elyrch yn yr haf.
Ond mae e wedi dweud wrth y clwb nad yw e’n teimlo’n ddigon hwylus yn feddyliol i chwarae ar hyn o bryd.
Doedd e ddim ar gael ar gyfer y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Huddersfield yr wythnos ddiwethaf ar ôl tynnu’n ôl o’r garfan.
Mae disgwyl bellach y bydd e’n gadael y clwb rywsut neu’i gilydd cyn diwedd y mis.
Fel arall, mae gan Russell Martin garfan lawn, ac eithrio’r amddiffynnwr canol Rhys Williams ar ôl iddo gael ei alw’n ôl o’i gyfnod ar fenthyg o Lerpwl.