Bydd y Scarlets yn chwarae eu gêm Ewropeaidd tros y penwythnos yn fyw o flaen torf ac mae eu Prif Hyfforddwr wrth ei fodd.

Bryste sy’n ymweld â Pharc y Scarlets ar gyfer y rownd ddiweddaraf o gemau yng Ngwhpan Heineken, gyda’r tîm cartref yn gwneud ambell newid i’r tîm gollodd allan yn Ffrainc i Bordeaux y penwythnos diwethaf.

Ymhlith y newidiadau mae Rhys Patchell yn cychwyn yn safle’r maswr a Dane Blacker yn safle’r mewnwr, gyda Gareth Davies yn methu’r gêm oherwydd salwch.

Ac mae Ryan Conbeer yn cymryd lle Steff Evans ar yr asgell chwith, gyda Liam Williams ar yr asgell dde a Johnny McNicholl yn safle’r cefnwr.

Ymhlith y blaenwyr mae Javan Sebastian, a gafodd ei enwi yng ngharfan yr Alban ar gyfer y Chwe Gwlad yr wythnos hon, yn camu fewn i’r rheng flaen.

Ond mi fydd yn rhaid i’r tîm cartref wneud heb Ken Owens yn safle’r bachwr – mae’r Sheriff wedi anafu ei gefn.

Ryan Elias fydd yn parhau yn safle’r bachwr i’r Scarlets felly, gyda’r ddau brop profiadol Wyn Jones a Samson Lee y naill ochr iddo.

Ac mi fydd yr ornest yn gyfle i wylio dau o olwyr danjerus Cymru sy’n chwarae i Fryste – Callum Sheedy a Ioan Lloyd.

“Hwb anferthol croesawu’r cefnogwyr yn ôl”

Dyma fydd y gêm gyntaf i gefnogwyr gael ei gwylio ym Mharc y Scarlets ers 22 Hydref 2021, ac mae Prif Hyfforddwr rhanbarth rygbi’r gorllewin wrth ei fodd.

“Mae gallu croesawu’r cefnogwyr yn ôl yn hwb anferthol i ni,” meddai Dwayne Peel.

“Mae hi’n dderbi lleol [yn erbyn Bryste] o safbwynt gemau Cymru-Lloegr.

“Felly fe fydd hi’n wych cael yr awyrgylch yna ac rwy’n gwybod fod yna hen edrych ymlaen am hon ymysg y bois.”

Mae Bryste, fel y Scarlets, yn ceisio chwarae gêm gyflym, gyffroes, a Dwayne Peel yn disgwyl gweld gornest flasus.

Scarlets v Bryste yn fyw ar S4C, y gic gyntaf am 5.30 ar bnawn Sadwrn, 22 Ionawr