Mae gêm Rygbi Caerdydd yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop wedi cael ei chanslo oherwydd achosion o Covid-19 yng ngharfan eu gwrthwynebwyr Toulouse.

Roedd disgwyl i’r rhanbarth deithio i Ffrainc fore heddiw (dydd Gwener, 21 Ionawr) ar gyfer eu gêm olaf yng nghymal y grwpiau yfory.

Yn unol â phrotocol y trefnwyr, bydd canlyniad y gêm yn cael ei chofnodi fel buddugoliaeth o 28-0 i Gaerdydd, sy’n casglu pump o bwyntiau oherwydd hynny.

Cyrraedd y rowndiau nesaf?

Mewn ffordd, dyma’r canlyniad gorau i Rygbi Caerdydd gan y byddai Toulouse yn ffefrynnau cryf yn y gêm, ac maen nhw’n fwy tebygol o gyrraedd y rowndiau nesaf yn sgil y fuddugoliaeth awtomatig.

Ar hyn o bryd, mae gan Rygbi Caerdydd saith pwynt yn y grŵp – dau o’r rheiny wedi eu casglu ar ôl sgorio pedair cais a cholli o lai na saith pwynt yn erbyn yr Harlecwiniaid y penwythnos diwethaf.

Bydd rhaid iddyn nhw obeithio bod Wasps, Castres, Stade Francais, a’r Scarlets yn cael canlyniadau negyddol yn eu gemau nhw i gadarnhau lle yn rownd yr 16.

Dydy Rygbi Caerdydd heb ennill gêm ar y cae yn y gystadleuaeth eleni, ar ôl iddyn nhw orfod chwarae tîm amhrofiadol i herio Toulouse a’r Harlecwiniaid yn y gemau cyntaf.

Daeth hynny ar ôl i’w tîm orfod hunanynysu ddwywaith ar ôl achosion o Covid-19 yn ystod eu taith i Dde Affrica yn hwyr y llynedd.

‘Gwarthus a chwbl ddi-sail’

Fe wnaeth cyfarwyddwyr corff Cynghrair Rygbi Ffrainc (LNR) gyhoeddi datganiad ar ôl i’r gêm gael ei chanslo gan gorff Rygbi Clwb Proffesiynol Ewrop (EPCR).

“Yn dilyn cyhoeddiad yr EPCR i ganslo gêm Cwpan y Pencampwyr rhwng Stade Toulousain a Rygbi Caerdydd, mae’r LNR yn condemnio penderfyniad gwarthus a chwbl ddi-sail,” meddai’r datganiad.

“Mae Toulouse wedi casglu grŵp o chwaraewyr i greu tîm addas i chwarae’r gêm, gan gydymffurfio’n llawn â rheoliadau iechyd EPCR a phrotocol iechyd Ffrainc.”

Mae’n debyg bod rheolau’r EPCR yn datgan mai’r cyrff sy’n gyfrifol am gynghreiriau proffesiynol ymhob gwlad sy’n cael penderfynu ynglŷn â gallu gemau i fynd yn eu blaen.

“Mae comisiwn arbenigol o’r LNR wedi cyfleu ei safbwynt nos Iau, Ionawr 20, i’r EPCR. Ein safbwynt oedd y gallai’r clwb chwarae’r gêm yn erbyn Rygbi Caerdydd,” meddai’r LNR yn eu datganiad.

“Felly mae penderfyniad yr EPCR yn cael ei wneud yn groes i’w reoliadau ei hun. Mae’n annealladwy ac yn rhagfarnu’r clwb a thegwch y gystadleuaeth yn ddifrifol.”

‘Anghyfrifol’

Ychwanegodd cadeirydd yr LNR, Rene Bouscatel: “Mae Cwpan y Pencampwyr yn gystadleuaeth fawreddog iawn.

“Ni all ei drefnwyr fforddio gwneud penderfyniadau mympwyol sy’n groes i’w rheoliadau ei hun. Mae’r penderfyniad hwn yn anghyfrifol.

“Rwyf wedi penderfynu trefnu cyfarfod â bwrdd cyfarwyddwyr yr LNR fel mater o frys i drafod pa gamau dilynol, gan gynnwys camau cyfreithiol, fydd yn cael eu cymryd ynglŷn â’r penderfyniad hwn.”