Mae Dean Ryan, Cyfarwyddwr Rygbi’r Dreigiau, wedi talu teyrnged i Richard Hibbard, cyn-fachwr Cymru, sydd wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o’r gamp.

Enillodd y bachwr 38 oed 38 o gapiau dros ei wlad, ac fe chwaraeodd e ym mhob un o’r gemau prawf ar daith y Llewod i Awstralia yn 2013.

Chwaraeodd e dros 175 o weithiau i’r Gweilch ar ôl ymuno â’r rhanbarth yn 2004, a hynny ar ôl iddo fe chwarae i Abertawe.

Cafodd ei alw i garfan Cymru ar gyfer y daith i’r Ariannin yn 2006, gan ennill ei ddau gap cyntaf ar y daith honno.

Cafodd e lawdriniaeth ar ei ysgwydd ar ddechrau tymor 2006-07, gan chwarae pedair gwaith yn unig i’r Gweilch y tymor hwnnw wedyn.

Ond cafodd ei alw i garfan Cymru Gareth Jenkins i deithio i Awstralia yn 2007, a chafodd ei gynnwys yng ngharfan gychwynnol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn Ffrainc.

Cafodd ei alw i garfan Cymru Warren Gatland eto i herio De Affrica yn ystod haf 2008, gan gadw ei le ar gyfer gemau’r hydref, a dechrau yn erbyn Canada.

Ar ôl y daith i Ogledd America, wnaeth e ddim gwisgo’r crys cenedlaethol eto tan 2011, ond roedd e’n chwarae’n rheolaidd erbyn 2013, ac fe ddechreuodd e bedair allan o bum gêm Cymru wrth iddyn nhw gadw eu gafael ar dlws y Chwe Gwlad, a chael ei ddewis i’r Llewod.

Chwaraeodd e dros 100 o weithiau i Gaerloyw yn Uwch Gynghrair Lloegr cyn dychwelyd i Gymru at y Dreigiau yn 2018.

‘Digon yw digon’

“Wel, am wn i dw i’n drist iawn o ddweud, yn anffodus, fod fy nghorff o’r diwedd wedi dweud “digon yw digon”,” meddai mewn datganiad.

“Yn siomedig, mae’n dod ar oedran mor ifanc yn 38. Am daith fuodd hi.

“Dw i wedi bod yn ddigon ffodus o fod wedi gwneud popeth roeddwn i eisiau ei wneud a mwy, yn y gêm wych hon.”

‘Ffigwr pwysig’

“Mae ‘Hibbz’ wedi bod yn ffigwr pwysig yn ystod fy amser gyda’r Dreigiau, o ran ei ymdrechion ar y cae a’i waith yn datblygu’r to iau o fewn ein carfan,” meddai Dean Ryan.

“Mae ei gyfraniad i rygbi yng Nghymru wedi bod yn un enfawr dros y blynyddoedd, yn enwedig pan ystyriwch chi yr hyn mae e wedi’i gyflawni a’r effaith gafodd e ar Gymru a Llewod Prydain ac Iwerddon.”