Wrth i’r dyfalu barhau am ddyfodl ambell Gymro erbyn diwedd y ffenestr drosglwyddo, roedd penwythnos llawn arall o gemau i’r gweddill

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Colli a fu hanes Leeds wrth iddynt herio Newcastle ddydd Sadwrn. Dechreuodd Dan James y gêm cyn cael ei eilyddio am ei gyd-wladwr, Tyler Roberts, gydag ugain munud yn weddill.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Fin Stevens i Brentford wrth iddynt golli gartref yn erbyn Wolves ddydd Sadwrn. Ar y fainc yr oedd Danny Ward a Neco Williams i Gaerlŷr a Lerpwl ddydd Sul hefyd. Cafodd Williams ychydig funudau ganol wythnos serch hynny, fel eilydd hwyr ym muddugoliaeth Lerpwl dros Arsenal yn rownd gynderfynol Cwpan y Gynghrair.

Roedd hi’n ddiwrnod i’w gofio i un o gefnwyr arall Cymru ddydd Sul wrth i Connor Roberts ddechrau gêm i Burnley am y tro cyntaf yn yr Uwch Gynghrair. Chwaraeodd yn dda hefyd wrth iddynt gadw llechen lân mewn gêm ddi sgôr yn erbyn Arsenal. Ar y fainc yr oedd Wayne Hennessey.

Connor Roberts

Taith Tottenham i Chelsea a oedd y gêm fawr ddydd Sul. Dechreuodd Ben Davies yn ôl ei arfer yng nghyfnod Antonio Conte ond roedd newid safle i’r Cymro wrth i Spurs newid system, yn chwarae fel cefnwr chwith yn hytrach na ar y chwith o’r tri yn y cefn. Ond hyd yn oed gyda chwe amddiffynnwr cydnabyddedig yn yr un ar ddeg cychwynnol, nid oedd lle i Joe Rodon ar y cae, dim ond ar y fainc. Colli’r gêm o ddwy gôl i ddim a wnaeth Spurs.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Yn eu gêm gartref gyntaf o flaen torf yn 2022, enillodd Abertawe o gôl i ddim yn erbyn Preston. Chwaraeodd Ben Cabango yng nghanol yr amddiffyn a gadwodd llechen lân yn erbyn ymosod a oedd yn cynnwys Ched Evans. Nid oedd Andrew Hughes yng ngharfan Preston gan ei fod wedi’i wahardd yn dilyn cerdyn coch dadleuol yn erbyn Sheffield United ganol wythnos.

Colli o dair gôl i ddwy a fu hanes Caerdydd yn y gêm ddarbi yn erbyn Bristol City yn Ashton Gate. Dechreuodd Mark Harris i’r Adar Gleision a daeth Isaak Davies oddi ar y fainc. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Will Vaulks ond nid oedd golwg o Kieffer Moore unwaith eto. Dechreuodd Andy King y gêm i’r tîm cartref ond bu’n rhaid iddo adael y cae gydag anaf wedi llai na hanner awr.

O un elyniaeth i un arall, Nottingham Forest a aeth â hi yn y gêm fawr yn erbyn Derby ac roedd y Cymry yn ei chanol hi. Roedd Forest eisoes gôl i ddim ar y blaen cyn i Brennan Johnson ddyblu’r fantais yn y deg munud olaf, yn dechrau a gorffen symudiad slic. Tynnodd Tom Lawrence un yn ôl i Derby, yn ennill a sgorio cic o’r smotyn, ond rhy ychydig rhy hwyr a oedd hi.

Mae dyfodol Derby yn ansicr o hyd wrth i’r gweinyddwyr chwilio am brynwyr addas ac fel eu chwaraewr gorau’r tymor hwn, fe allai gwerthu Lawrence ddatrys rhai o’u problemau ariannol. Ag yntau wedi sgorio wyth gôl i dîm mewn trafferth, mae digon o glybiau yn y Bencampwriaeth a’r Uwch Gynghrair yn cadw golwg ar y sefyllfa. Dichon fod Rob Page hefyd.

Tom Lawrence

Nid oedd Harry Wilson yng ngharfan Fulham wrth iddynt guro Stoke o dair gôl i ddwy ac ymestyn eu mantais ar frig y tabl. Dechreuodd James Chester a Joe Allen i’r gwrthwynebwyr, roedd Morgan Fox ar y fainc ond Adam Davies allan o’r garfan.

Collodd Bournemouth dir ar Fulham wrth golli o gôl i ddim yn erbyn Hull. Dechreuodd Chris Mepham y gêm i’r Cherries ond dioddefodd anaf cyn yr egwyl. Nid oedd Matthew Smith yn ngharfan Hull.

Roedd Sorba Thomas yn rhan o gêm gofiadwy wrth i’w dîm Huddersfield guro Reading o bedair gôl i dair, canlyniad sydd yn eu rhoi yn ôl yn y safleoedd ail gyfle.

Chwaraeodd Rhys Norringhton-Davies 90 munud i Sheffield United wrth iddynt drechu Luton o ddwy gôl i ddim ond mae Tom Lockyer yn parhau i fod yn absennol i Luton.

Dechreuodd Jordan James fuddugoliaeth Birmingham o ddwy gôl i un dros Barnsley a chwaraeodd George Thomas chwarter awr fel eilydd wrth i QPR guro Coventry o’r un sgôr.

Nid oedd Dave Cornell yng ngharfan Peterborough y penwythnos hwn ac felly hefyd Chris Maxwell a Tom Bradshaw wrth i anafiadau eu hatal hwy rhag wynebu ei gilydd gyda Blackpool a Millwall.

 

*

 

Cynghreiriau is

Cododd Wigan i frig yr Adran Gyntaf gyda buddugoliaeth o dair gôl i ddwy yn erbyn Gillingham. Dechreuodd Gwion Edwards y gêm a chreu dwy gôl gyntaf ei dîm i Will Keane a Stephen Humphreys.

Wycombe a ildiodd eu lle ar y brig oherwydd colled o dair i ddwy ym Morecambe. Chwaraeodd Joe Jacobson yn ôl ei arfer, roedd Adam Przybek ar y fainc ond nid oedd Sam Vokes yn y garfan.

Roedd y Cymry’n amlwg yn y gêm rhwng Plymouth a Lincoln. Dechreuodd James Wilson, Ryan Broom a Luke Jephcott i Plymouth, gyda Jephcott yn rhoi ei dîm ar y blaen yn yr hanner cyntaf. Yn ôl y daeth Lincoln serch hynny gyda Regan Poole yn creu’r gôl fuddugol i Max Melbourne yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm. Chwaraeodd Liam Cullen y gêm gyfan hefyd.

Sgoriodd Wes Burns ei ail gôl mewn tair gêm, yn unioni pethau hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf i Ipswich yn erbyn Accrington. Aeth ei dîm ymlaen i ennill o ddwy gôl i un. Nid oedd Lee Evans yng ngharfan Ipswich ond chwaraeodd Mitch Clark i’r gwrthwynebwyr.

Roedd ymddangosiad prin o’r dechrau i Billy Bodin wrth i Rydychen guro Sheffield Wednesday o dair gôl i ddwy a gwobrwyodd y Cymro ei reolwr wrth greu’r gôl fuddugol hwyr i Sam Winnall.

Roedd buddugoliaeth o gôl i ddim i Gethin Jones, Declan John a Jordan Williams gyda Bolton yn erbyn  yr Amwythig ond parhau i fod ar y rhestr anafiadau y mae Josh Sheehan a Lloyd Isgrove.

Collodd Crewe o gôl i ddim yng Nghaergrawnt, gyda Dave Richards, Billy Sass-Davies, Zac Williams a Tom Lowery yn y tîm. Colli o’r un sgôr a wnaeth Joe Morell a Louis Thompson gyda Portsmouth yn Sunderland. Ar y fainc yr oedd Kieron Freeman i Pompey ac mae Nathan Broadhead yn parhau i fod allan o garfan Sunderland gydag anaf hir dymor.

Tom Lowery

Nid oedd Adam Matthews na Chris Gunter yng ngharfan Charlton wrth iddynt drechu Fleetwood o ddwy gôl i ddim ond roedd Ellis Harrison yn nhîm y gwrthwynebwyr.

Owen Evans a oedd rhwng y pyst i Cheltenham wrth iddynt golli o gôl i ddim yn Rotherham ond parhau i aros am ei ymddangosiad cyntaf y mae Ben Williams ers ymuno o Barnsley.

Yn yr Ail Adran, gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi wrth i Swindon groesawu Bristol Rovers i’r County Ground gyda Jonny Williams yn chwarae’r 90 munud, rhywbeth sydd wedi bod yn beth prin i’r Cymro’r tymor hwn.

Ildiodd Tom King deirgwaith wrth i Salford golli yn erbyn Colchester a daeth Liam Shephard i’r cae fel eilydd ar gyfer yr ail hanner. A braf iawn a oedd gweld Emyr Huws yn nhîm Colchester, ymunodd y Cymro â’r clwb o Essex yr wythnos diwethaf yn dilyn cyfnod hir heb glwb.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Roedd hi’n benwythnos pedwaredd rownd y Cwpan yn yr Alban. Dechreuodd pethau gyda Hibs yn curo Cove Rangers o gôl i ddim nos Iau; Christian Doidge yn chwarae’r awr gyntaf.

Dylan Levitt a oedd arwr Dundee United ddydd Sadwrn. Wedi iddi orffen yn gyfartal gôl yr un wedi 90 munud yn erbyn Kilmarnok aeth y gêm i amser ychwanegol a gyda deg munud o hwnnw’n weddill fe sgoriodd y Cymro’r gôl fuddugol i roi ei dîm yn y rownd nesaf.

Dylan Levitt

Roedd Cymro ymhlith y sgorwyr i Aberdeen hefyd wrth iddynt hwy sicrhau buddugoliaeth dipyn mwy cyfforddus yn erbyn Edinburgh City. Tair i ddim a oedd y sgôr terfynol gyda Ryan Hedges yn sgorio un a chreu un arall. Nid oedd Marley Watkins yn y garfan. Nid oedd golwg o Ben Woodburn ychwaith yng ngêm Hearts yn Auchinleck.

Dechreuodd Alex Samuel a chwarae’r awr gyntaf i Ross County wrth iddynt golli o gôl i ddim yn erbyn Livingston. Eilydd hen ei ddefnyddio a oedd Morgan Boyes i Livi.

Aeth Dunfermline allan o’r Cwpan yn y rownd ddiwethaf felly gêm gynghrair a oedd gan Owain Fôn Williams ddydd Sadwrn a chododd ei dîm o waelod y Bencampwriaeth gyda gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn ei gyn glwb, Inverness.

Daeth newyddion da i gefnogwyr Cymru o Sbaen yr wythnos hon wrth i Gareth Bale ddychwelyd i fainc Real Madrid. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd y Cymro serch hynny ar gyfer y gêm gwpan ganol wythnos yn erbyn Elche a’r gêm gynghrair yn erbyn yr un gwrthwynebwyr ddydd Sul. Mater o amser yn unig gobeithio nes y bydd Carlo Ancelotti yn galw arno.

Yn yr Eidal, mae Ethan Ampadu yn parhau i chwarae’n rheolaidd yn nhîm Venezia ond wedi gorfod addasu a chwarae mewn amrywiol safleoedd dros yr wythnosau diwethaf. Dechreuodd fel ôl-asgellwr dde yn erbyn Inter nos Sadwrn gan greu’r gôl agoriadol gyda chroesiad gwych i Thomas Henry. Colli a wnaethant yn y diwedd serch hynny i gôl hwyr Eden Dzeko.

Roedd hi’n wythnos brysur i James Lawrence a St. Pauli yn yr Almaen. Wedi buddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Borussia Dortmund yn y Cwpan ganol wythnos roeddynt yn wynebu Hamburger mewn gêm ddarbi fawr yn y gynghrair nos Wener. Colli o ddwy gôl i un a wnaethant yn honno a chwaraeodd Lawrence y 90 munud yn y ddwy gêm.

Nid oedd tîm Rabbi Matono, Cercle Brugge, yn ’ware gêm tan nos Sul ym mhrif adran Gwlad Belg, Zulte Waregem y gwrthwynebwyr.

Parhau y mae’r dyfalu am ddyfodol Aaron Ramsey wrth i’r amser brysur ddiflannu yn y ffenestr drosglwyddo. Crystal Palace a oedd y ffefrynnau’n gynharach yn yr wythnos ond nid yw’n debygol bellach y bydd Rambo’n ymuno ag Osian Roberts yn Llundain. Burnley o bawb yw’r si ddiweddaraf. Ti’n well na hynny Aaron.