Wrth i Awstralia barhau i ddathlu chwalu Lloegr o 4-0 yn Hemisffer y De i gadw’r Lludw, mae’r pwyso a mesur o ran perfformiadau tîm prawf y Saeson wedi hen ddechrau, gyda swyddi’r prif hyfforddwr Chris Silverwood a’r capten Joe Root dan y chwyddwydr, a gallu rhai o’r chwaraewyr hynaf a mwyaf profiadol i ddal i chwarae ar y lefel uchel yn cael ei gwestiynu.

Mae digon i gnoi cil arno dros y pum gêm – o’r gyfres wahanol i’r arfer oherwydd Covid i’r seren frodorol Awstralaidd, Scott Boland, sydd wedi cael ei gyfle o’r diwedd – heb anghofio’r ddwy gêm bêl binc o dan y llifoleuadau.

Yma, mae’r newyddiadurwyr Andy Bell, sy’n byw yn Awstralia, ac Alun Rhys Chivers yn cnoi cil ar y gyfres aeth heibio.

Chwaraewr gorau

Andy Bell: Pat Cummins, capten effeithiol a bowliwr dylanwadol. Nid Aussie hyll mohono chwaith. Roedd ei weithred i atal y champers ar ddiwedd y gyfres er parch i Usman Khawaja [Mwslim o dras Bacistanaidd] yn dangos ei fod e’n ddyn da.

Alun Rhys Chivers: Pat Cummins i fi hefyd. 21 o wicedi ar gyfartaledd o 18 yr un. Ond yn bwysicach, mae e’n cynnig sefydlogrwydd ar ôl cyfnod cythryblus yn hanes Awstralia – yn wir, cyfnod oedd yn dal i fod yn gysgod tros y tîm ar drothwy’r gyfres yn sgil helynt Tim Paine. Ond mae’n rhaid sôn hefyd am Scott Boland, y bowliwr cyflym o dras frodorol, a gipiodd chwe wiced am saith rhediad yn y ‘Prawf San Steffan’. Hollol ragorol – a thipyn o hanes fel yr Aborijini cyntaf ers Jason Gillespie ddau ddegawd yn ôl i wisgo’r ‘baggy green’.

Gêm orau’r gyfres

AB: Y pedwerydd prawf [gêm gyfartal yn yr SCG] oherwydd y cyffro hyd y diwedd.

ARC: O gofio pa mor unochrog oedd y gyfres eleni – a’r tîm Lloegr hwn ymhlith y gwaethaf dwi wedi’u gweld ers amser maith – mae’r ffaith fod gêm gyfartal yn y pedwerydd prawf yn yr SCG yn un o’r ychydig uchafbwyntiau i’r Saeson yn adrodd cyfrolau am eu taith a oedd ymhell o fod yn ddigon da ar gyfer un o uchafbwyntiau’r calendr criced.

Y belen binc

AB: Mae’r gwahaniaeth rhwng golau dydd a’r nos yn rhy fawr, a mympwy tafliad y darn pres yn rhy ddylanwadol. Dwy gêm binc? Un yn ormod!

ARC: Dwi erioed wedi bod yn ffan o’r bêl binc. Mae chwarae gemau pêl binc o fewn y gêm ddomestig yn ddigon diflas ar adegau, gyda’r sgoriau’n eithriadol o isel. Mae cymhlethdod o gynnal gemau fel hyn rhwng gwledydd sy’n gyfarwydd â defnyddio peli gwahanol – y Duke yn Lloegr a’r Kookaburra yn Awstralia. Dyw’r naill na’r llall ddim yn ymddwyn yn dda o’i throi’n binc, felly roedd dwy gêm ddydd a nos gam yn rhy bell, o bosib.

Cyfraniad Marnus Labuschagne

AB: Cyfraniad pwysig oherwydd methiannau Steve Smith a David Warner, ond yr apeliwr mwyaf di-glem!

ARC: Teg dweud iddo fe ddechrau’r gyfres yn well nag y gorffennodd e. Ar ôl dweud yr hyn wnes i am gemau dydd a nos, roedd Labuschagne ymhlith yr ychydig chwaraewyr wnaeth serennu o dan y llifoleuadau, gyda chanred a hanner canred yn yr ail brawf yn Adelaide. Mae’n hawdd anghofio weithiau mai dim ond ers dwy flynedd a hanner mae e’n chwarae ar y lefel yma – mae e’n sicr wedi dod yn bell ers y gyfres ddiwethaf yn Lloegr pan oedd e’n eilydd cyfergyd i Steve Smith.

Usman Khawaja yn ôl yng nghrys Awstralia

AB: Mae hon yn stori wych a phwysig yng nghyd destun aml-ddiwyllianedd Oz. Nid ar chwarae bach roedd gwneud rhediadau sylweddol yn y gyfres hon.

ARC: Roedden ni i gyd sy’n cofio’i gyfnod byr gyda Morgannwg yn dal i gofio’r argraff wnaeth e gyda’r tri chanred mewn gemau olynol pan ddaeth e i Gymru. Roedd rhai yn ddigon parod i gefnu arno fe, ond fe ddangosodd e ar ôl absenoldeb o ddwy flynedd a hanner ei fod e’n gallu perfformio ar y lefel uchaf o hyd. Dim ond stori Scott Boland sy’n trechu ei stori dylwyth teg e.

Michael Neser yn cael ei gyfle o’r diwedd

AB: Pan ddaeth y cyfle, gwnaeth e’n dda ond aeth ei gyfraniad yn angof oherwydd Scott Boland a’i fowlio rhyfeddol.

ARC: Hir yw pob aros, medden nhw. Ac mae’r bowliwr cyflym yn sicr wedi gorfod aros yn hir am ei gyfle. Roedd rhywbeth digon truenus am yr het fawr wen yng nghanol y ‘baggy greens’ yn lluniau’r tîm dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd e’n anffodus o golli allan i Boland pan oedd rhaid i Cummins hunanynysu, ond fe brofodd ei bwynt – ond gyda’r bat ac nid y bêl gyda’r 35 yn Adelaide yn dangos ei fod e wir yn amryddawn.

Chwarae yn ystod Covid

AB: Hon yw’r gyfres salaf i mi ei gwylio ers cychwyn dilyn yr Ashes yn 1968! Roedd Oz ymhell o fod yn becampwyr o’r radd flaenaf, ond roedd Lloegr yn wan, yn ddi-gyfeiriad a heb ysbryd. Bu’n gyfnod heriol oherwydd Covid, ond chwaraewyr proffesiynol ydyn nhw wedi’r cwbl, ac roedd crefft y batwyr ar goll a chapteniaeth Joe Root yn wan.

ARC: Digon hawdd fyddai esgusodi perfformiad sâl Lloegr oherwydd prinder amser i baratoi oherwydd cyfyngiadau Covid-19 wrth gyrraedd Awstralia. Yn wir, byddai rhai’n cwestiynu doethineb cynnal un o’r digwyddiadau criced mwyaf yn ystod pandemig gan wybod na fyddai’r caeau’n gwbl lawn ac y byddai rhywbeth yn cael ei golli. Ond cafodd y ddau dîm eu heffeithio, a llwyddodd Awstralia i ymdopi dipyn gwell na Lloegr a chafodd hynny ei adlewyrchu yng nghanlyniad y gyfres yn y pen draw.

 

Beth nesaf i Loegr ac Awstralia?

AB: Bydd Awstralia yn dal i ddatblygu. Mae cyfnod Warner yn dirwyn i ben, ac nid yw Alex Carey yn wicedwr o’r safon angenrheidiol. Lloegr? Ble i ddechrau?! Rhaid cryfhau’r gêm ddosbarth cyntaf – ac yn glou hefyd. Nid oes gan rhai o’r garfan bresennol y gallu na’r aeddfedrwydd i adeiladu batiad sylweddol. Mae’r gyfundrefn ddewis a hyfforddi yn anfoddhaol ar y naw.

ARC: Dechrau o’r dechrau fydd Lloegr, mae’n siŵr. Doedd carfan mor ddi-brofiad byth yn mynd i elwa o fynd ar daith mor fawr mor gynnar yn eu gyrfaoedd rhyngwladol. Doedd yr absenoldebau’n sicr ddim yn helpu’r sefyllfa, ond mae’n codi cwestiynau ynghylch pwy fydd yn camu i esgidiau rhai o’r chwaraewyr sy’n annhebygol o fynd i Awstralia eto. Ac mae’n rhaid bod dyfodol y prif hyfforddwr Chris Silverwood yn y fantol hefyd. Ond mae cwestiynau dyfnach o lawer gan yr ECB i’w hateb am ddyfodol y gêm. O ran Awstralia, dydy dyfnder yn sicr ddim yn broblem – ac mae’n ben tost braf i’w gael. Mae ganddyn nhw’r cyfuniad perffaith o brofiad ac ieuenctid, gyda rhai o’r chwaraewyr yn y canol yn barod i gamu i fyny wrth gyrraedd oed yr addewid. Mae dyfodol disglair o flaen Awstralia gyda chwaraewyr fel Labuschagne, Cummins a Cameron Green yn debygol o chwarae am gryn amser eto.