Mae Mark Williams, y chwaraewr snwcer o Went, wedi talu teyrnged i Hossein Vafaei, ei wrthwynebydd yn rownd derfynol y Shoot Out a’r chwaraewr cyntaf o Iran i ennill un o gystadlaethau’r rhestr ddetholion.

Dim ond un ergyd chwaraeodd y Cymro llaw chwith, a honno i gychwyn yr ornest, cyn i Vafaei glirio’r bwrdd gyda sgôr o 71 ar ôl potio coch hir i’r poced.

Wrth godi’r tlws ar Sul y Mamau yn Iran, fe wnaeth Vafaei dalu teyrnged i’w fam-gu a fu farw’n ddiweddar.

Dywedodd fod ei gamp yn un “fawr i wlad fel Iran”.

“Doedd neb yn gwybod am snwcer o’r blaen,” meddai. “Nawr maen nhw.

“Dw i wedi bod yn gweithio’n galed ac yn diolch i Dduw fy mod i, o’r diwedd, wedi ennill twrnament ac yn gwneud fy mhobol yn falch.”

Mark Williams yn “tynnu het” iddo

“Ro’n i’n meddwl fy mod i wedi chwarae ergyd dda i dorri, ac am bêl goch wych oedd honno!” meddai.

“I wneud y rhediad yna o dan bwysau i ennill eich twrnament cyntaf, dw i’n tynnu fy het iddo fe.”

Bu bron i Vafaei golli ei rownd derfynol, serch hynny, wrth i Liang Wenbo daro ergyd ryfedd a photio’r bêl wen wrth anelu am ddu syth ar sgôr o 48.

Manteisiodd Vafaei gyda rhediad o 54 i gyrraedd y rownd derfynol yn erbyn Mark Williams, oedd wedi sgorio 80 wrth glirio’r bwrdd yn y rownd gyn-derfynol yn erbyn y Sais Robbie Williams.