Mae cadeirydd criw o wirfoddolwyr sy’n caru criced wedi disgrifio absenoldeb parhaus Clwb Criced Morgannwg o’r cae yn Abertawe fel un “torcalonnus”.
Bydd y sir yn chwarae yn y Gnoll yng Nghastell-nedd yr haf hwn, ond fyddan nhw ddim yn dod i’r cae ar lan y môr yn San Helen fel y buon nhw cyn y pandemig Covid.
“Dw i’n teimlo ’mod i wedi cael fy nhaflu allan o ‘nghartref fy hun, heb y grym i wneud dim byd am y peth,” meddai John Williams, cadeirydd Orielwyr San Helen, sydd wedi bod yn hybu a chodi arian ar ran Morgannwg ers 1972.
“Wrth gyhoeddi’r rhestr gemau ar gyfer 2022 yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Dan Cherry, Pennaeth Gweithrediadau Morgannwg, “yn anffodus, rydyn ni’n methu chwarae yn San Helen eleni, gan nad yw’r cyfleusterau bellach yn gallu cefnogi cynnal criced domestig yn y lleoliad”.
Dywedodd llefarydd ar ran y clwb nad oes criced proffesiynol wedi’i chwarae ar y cae, sy’n eiddo i Gyngor Abertawe, ers 2019 a bod pryderon sylweddol na fyddai’r llain na’r cae yn cyrraedd y safonau angenrheidiol i gynnal criced dosbarth cyntaf eleni.
Dywedodd hefyd fod yna ddiffygion o ran isadeiledd gweithrediadau yno, a bod gan bob sir tan fis Ebrill y flwyddyn nesaf i gyrraedd y safon angenrheidiol.
Dywedodd fod Morgannwg wedi cysylltu â Chyngor Abertawe am San Helen, a bod yna berthynas dda rhyngddyn nhw ac Orielwyr San Helen, a bod y sir yn awyddus i sefydlu canolfan ragoriaeth yng ngorllewin Cymru i dyfu’r gêm yno.
Ergyd eto
Ond i John Williams a’r Orielwyr, roedd cyhoeddi’r rhestr gemau’n ergyd arall eto fyth.
Dywed nad yw ymhell dros ganrif o dreftadaeth griced yn San Helen wedi cael ei pharchu.
“Mae hi mor drist – yn dorcalonnus,” meddai.
Dywed fod yr Orielwyr wedi codi £450,000 dros y 12 mlynedd diwethaf ar ran Morgannwg, ac wedi trefnu noson wobrau heb gost i’r sir ers 1973.
“Does dim cae arall yn y wlad lle gallwch chi wylio criced a chael golygfa fel Bae Abertawe,” meddai wedyn am y cae sydd ergyd chwech o’i gartref yn ardal Sgeti yn y ddinas.
“Gofynnwch i’r holl siroedd – maen nhw i gyd eisiau dod i San Helen.”
Mae gan San Helen restr hir o chwaraewyr criced a rygbi sydd wedi chwarae yno.
Mae’r Awstraliaid Syr Don Bradman, Keith Miller, Ray Lindwall, Bill Lawry a Glenn McGrath i gyd wedi chwarae yno, felly hefyd Syr Garfield Sobers o India’r Gorllewin – ac yntau wedi creu hanes mewn criced dosbarth cyntaf wrth daro chwech chwech mewn pelawd yno yn 1968 – a Syr Clive Lloyd.
Magwrfa i gricedwyr o Gymru
Ond fe fu hefyd yn fagwrfa i genedlaethau o gricedwyr o Gymru, gan gynnwys Alan Jones, Robert Croft, David Hemp a’r diweddar Don Shepherd.
Yn ôl Cyngor Abertawe, bydd y cae a’r llain yn San Helen yn destun gwaith cynnal a chadw ganddyn nhw yn barod ar gyfer tymor 2022, ac mae disgwyl i Glwb Criced Abertawe chwarae yno fel y gwnaethon nhw y tymor diwethaf.
“Rydyn ni wedi cynnal San Helen yn ôl safonau dosbarth cyntaf ers nifer o flynyddoedd, er ein bod ni’n ymwybodol o ganllawiau newydd yr ECB (Bwrdd Criced Cymru a Lloegr) sydd i ddod yn fuan,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.
Ychwanegodd y llefarydd fod y Cyngor weid ymrwymo i hwyluso cynnal a datblygu chwaraeon yn Abertawe ar lefel gymunedol ac elit, ac ymhlith myfyrwyr.
“Rydym yn parhau i gynnal perthynas gref â’r clwb a’r Orielwyr,” meddai wedyn.
“Edrychwn ymlaen at hyn yn parhau yn y dyfodol.”