Mae’r Gymdeithas Nofio ar gyfer Pobol Dduon wedi ffurfio partneriaeth gyda Chwaraeon Cymru, gyda’r nod o wneud nofio a chwaraeon dŵr eraill yn fwy amrywiol o ran ethnigrwydd yng Nghymru.

Mae ddau sefydliad yn dweud bod y bartneriaeth yn “garreg filltir” oherwydd ei fod yn “ymrwymiad sylweddol i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb presennol yn y sector chwaraeon dŵr”, a dyma’r tro cyntaf i’r Gymdeithas gael presenoldeb yng Nghymru hefyd.

Daw’r bartneriaeth newydd flwyddyn ar ôl i Chwaraeon Cymru a chynghorau chwaraeon eraill y Deyrnas Unedig gomisiynu’r Adolygiad Mynd i’r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol mewn Chwaraeon.

Wrth gomisiynu’r adolygiad, roedden nhw’n cydnabod fod angen gwneud mwy “i wneud chwaraeon yn groesawgar, yn gynhwysol ac yn amrywiol”.

‘Allwn i ddim bod yn hapusach’

“Fel rhywun sy’n Gymraes ac a gafodd ei magu fel athletwraig yng Nghaerdydd, allwn i ddim bod yn hapusach am ein partneriaeth newydd ni gyda Chwaraeon Cymru,” meddai Seren Jones, cydsylfaenydd y gymdeithas, a oedd yn nofio yn gystadleuol dros Glwb Nofio Dinas Caerdydd .

“Mae gweithio yng Nghymru yn golygu y bydd ein hymchwil a’n rhaglenni sydd eisoes ar waith yn Lloegr yn cael eu trosglwyddo, eu gweithredu a’u datblygu yma.

“Wrth i ni ehangu, felly hefyd ein partneriaethau gyda’r sector chwaraeon dŵr yng Nghymru, yn ogystal â’n perthnasoedd gyda chymunedau yng Nghymru.”

Yn ôl Danielle Obe, cydsylfaenydd a chadeirydd y gymdeithas, bydd modd “cynnwys mwy o bobol o gymunedau Affricanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd yng Nghymru mewn addysg diogelwch dŵr, nofio a phopeth sydd gan y sector chwaraeon dŵr yng Nghymru i’w gynnig” o ganlyniad i’r gymdeithas newydd.

Beth fydd y bartneriaeth yn ei gynnig?

Fel rhan o’r bartneriaeth, fe fydd swydd Rheolwr Darparu Rhaglenni’r Gymdeithas Nofio ar gyfer Pobol Dduon yn cael ei chreu a’i lleoli yng Nghaerdydd, lle mae pencadlys Chwaraeon Cymru.

Bydd y rôl yn sicrhau bod rhaglenni dŵr presennol y gymdeithas yn cael eu datblygu yng Nghymru, ac yn rhoi pwyslais ar ymgysylltu â chymunedau drwy feithrin perthnasoedd hirdymor â chymunedau Affricanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd yn ne Cymru.

Bydd y gwaith hefyd yn cyfrannu tuag at weithgareddau ymchwil cymdeithasol rhagarweiniol ledled Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe, a fydd yn cyfrannu at yr ymchwil a’r canfyddiadau mae’r elusen eisoes yn eu cynnal yn Lloegr.

Yn ychwanegol at y rhaglen ymchwil a chlinigau gweithgareddau dŵr, mae’r gymdeithas hefyd yn bwriadu rhoi sylw i’r anghydraddoldeb hiliol yng ngweithlu gweithgareddau dŵr y Deyrnas Unedig drwy gynyddu nifer y bobol o dras Ddu ac Asiaidd 25% erbyn 2024.

Ar hyn o bryd, mae llai na 3% o achubwyr bywyd, hyfforddwyr nofio a gwirfoddolwyr yn y sector yn dod o gymunedau Affricanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd.

Anelu i ddeall mwy, cynnig mwy o gyfleoedd a gwireddu manteision

“Er mwyn gwneud chwaraeon yn fwy croesawgar, cynhwysol ac amrywiol yng Nghymru, rydyn ni eisiau ehangu ein rhwydweithiau fel ein bod yn gweithio gyda mwy o arbenigwyr sydd â gwell dealltwriaeth o’r cymunedau rydyn ni’n ceisio ymgysylltu â hwy,” meddai Brian Davies, Prif Weithredwr dros dro Chwaraeon Cymru.

“Rydyn ni felly wrth ein bodd yn creu’r bartneriaeth newydd yma gyda’r Gymdeithas Nofio ar gyfer Pobol Dduon i wella’r cyfleoedd i bobl o dras Affricanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd gymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr.

“Mae gennym ni ddiddordeb mawr yn ymchwil y BSA i’r rhwystrau sy’n atal cyfranogiad y mae cymunedau amrywiol yn eu hwynebu, yn ogystal â’u cynlluniau ar gyfer cynyddu cynrychiolaeth pobol Dduon ac Asiaidd yn y gweithlu gweithgareddau dŵr.

“Drwy gael gweithluoedd a gwirfoddolwyr o gefndiroedd mwy amrywiol, gall chwaraeon yng Nghymru wireddu’r manteision sy’n deillio o ystod ehangach o safbwyntiau, profiadau, sgiliau a thalentau.

“Yr un mor bwysig hefyd, rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut gall y BSA ategu’r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan Nofio Cymru a sefydliadau eraill o fewn ein rhwydwaith partneriaid ehangach presennol.”