Mae o leiaf wyth o bobol wedi cael eu lladd ar ôl cael eu gwasgu y tu allan i stadiwm bêl-droed yng Nghamerŵn.
Roedd cefnogwyr yn ceisio cael mynediad i’r stadiwm i weld y tîm cartref yn chwarae’r Comoros yn rownd 16 olaf Cwpan Cenhedloedd Affrica pan ddaethon nhw i drafferth.
Fe gafodd cannoedd o gefnogwyr eu gweld yn heidio drwy un o’r gatiau y tu allan i Stadiwm Paul Biya yn y brifddinas Yaoundé.
Ar ben y cadarnhad o’r wyth fu farw, mae 38 o bobol wedi eu hanafu a saith o’r rheiny mewn cyflwr difrifol wael.
Oherwydd cyfyngiadau Covid, doedd dim ond 80% o gefnogwyr yn gallu mynychu’r gêm nos Lun (Ionawr 24), gyda’r stadiwm fel arfer yn gallu croesawu 60,000.
Mae’n debyg bod o gwmpas 50,000 o bobol wedi ceisio gwylio’r gêm yn ôl swyddogion.
Ymchwiliad
Fe gyhoeddodd y corff sy’n gyfrifol am bêl-droed yn Affrica, CAF, ddatganiad neithiwr (nos Lun, Ionawr 24).
“Mae CAF ar hyn o bryd yn ymchwilio i’r sefyllfa ac yn ceisio cael mwy o fanylion am yr hyn a ddigwyddodd,” meddai’r datganiad.
“Rydyn ni’n cyfathrebu yn gyson â llywodraeth Camerŵn a’r Pwyllgor Trefnu Lleol.
“Heno (nos Lun, Ionawr 24), anfonodd Dr Patrice Motsepe, Llywydd CAF, yr Ysgrifennydd Cyffredinol Veron Mosengo-Omba i ymweld â chefnogwyr sydd yn yr ysbyty yn Yaoundé.”