Mae’r chwaraewr ail reng Christ Tshiunza wedi profi’n bositif am Covid-19 ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Daw hyn wrth i garfan Cymru baratoi ar gyfer eu gêm gyntaf yn y bencampwriaeth eleni, gydag 11 diwrnod tan yr ornest yn erbyn Iwerddon yn Nulyn.

Fe wnaeth Tshiunza, sy’n 20 oed, gael canlyniad prawf llif unffordd positif ddoe (dydd Llun, Ionawr 24), ac fe wnaeth canlyniad prawf PCR gadarnhau hynny’n ddiweddarach.

Bydd yn hunanynysu am saith diwrnod, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, sy’n golygu y bydd ar gael i Gymru pe bai Wayne Pivac yn galw arno ac os yw ei ffitrwydd a’i iechyd yn caniatáu.

Rhyddhau chwaraewyr

Yn y cyfamser, mae chwe chwaraewr wedi cael caniatâd i gynrychioli eu clybiau’r penwythnos hwn.

Ross Moriarty

Un o’r rheiny sydd wedi eu rhyddhau o’r garfan yw Ross Moriarty, sydd wedi dioddef ag anaf a gafodd i’w ysgwydd yn erbyn Seland Newydd yn ystod Cyfres yr Hydref.

Mae’n edrych yn debyg y bydd y blaenasgellwr yn ymddangos i’r Dreigiau yn erbyn Benetton nos Wener (Ionawr 28) ac y bydd o felly yn ddigon ffit i chwarae i Gymru yn eu gêm agoriadol yn erbyn y Gwyddelod.

Yn ogystal, bydd y ddau brop, Rhys Carre a Dillon Lewis, yn dychwelyd i ranbarth Rygbi Caerdydd, tra bydd Gareth Anscombe yn ymddangos i’r Gweilch, a Kieran Hardy i’r Scarlets yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig dros y penwythnos.

Roedd bachwr Bradley Roberts hefyd wedi cael caniatâd i gael ei ddewis gan Ulster yn yr un gystadleuaeth, tra bod holl chwaraewyr Cymru sy’n chwarae i glybiau yn Lloegr yn gorfod gadael gwersyll y garfan beth bynnag oherwydd rheolau corff World Rugby.

Ymhlith y rheiny sydd wedi eu galw’n ôl gan eu clybiau mae’r capten newydd Dan Biggar, Louis Rees-Zammit, Callum Sheedy a Nick Tompkins.

Bydd pob un yn ailymuno â charfan Cymru ddydd Sul (Ionawr 30) mewn pryd ar gyfer y paratoadau olaf ar gyfer y gêm yn Nulyn.

Bradley Roberts

Daeth cadarnhad yn y cyfamser fod Bradley Roberts wedi llofnodi cytundeb tymor hir i chwarae yng Nghymru.

Bydd Roberts yn ymuno â’r Dreigiau yn yr haf.

Chwaraeodd e dros Gymru am y tro cyntaf yng Nghyfres yr Hydref, ac mae’n gymwys gan fod ei fam-gu ar ochr ei dad yn hanu o Landysul.