Mae’r UFC wedi cyhoeddi y bydd yr ymladdwr o Gymru Jack Shore yn herio Timur Valiev yn Llundain ar Fawrth 19.

Mae’r gŵr 26 oed wedi ennill pob un o’i bedair gornest yn yr UFC hyd yma, ac mae ganddo record o 15-0 ar hyd ei yrfa.

Mae gan ei wrthwynebydd, Valiev o Rwsia, record o 18-2 a dydy e ddim wedi colli ers mis Chwefror 2016.

Mae Shore yn bwriadu adeiladu ar ei fuddugoliaeth ddiwethaf yn erbyn Liudvik Sholinian, ar ôl cytuno ar gytundeb newydd gyda’r UFC.