Mae Sheffield United wedi denu’r Cymro Adam Davies o Stoke City am ffi sydd heb ei ddatgelu.

Mae’r gôl-geidwad 29 oed wedi cael cytundeb chwe mis gyda’r opsiwn o ymestyn ei gyfnod yn Bramall Lane ar ddiwedd y tymor.

Fe yw’r chwaraewr cyntaf i Paul Heckingbottom ei ddenu fel rheolwr y clwb, ac fe chwaraeodd Davies oddi tano yn Barnsley.

“Rydw i wedi adnabod Adam ers nifer o flynyddoedd ac rwy’n ymwybodol iawn o’i allu,” meddai Paul Heckingbottom.

“Roedd angen gôl-geidwad arall arnom ac mae Adam yn ticio’r bocsys i gyd.

“Roedd yn awyddus ac yn barod i ymuno â’r clwb.”

Roedd Davies gyda Barnsley am bum mlynedd cyn ymuno â Stoke yn 2019.

Gwnaeth e 41 ymddangosiad i Stoke, gyda 15 ohonyn nhw yn dod y tymor hwn.