Mae cadeirydd Clwb Criced Morgannwg yn dweud bod hiliaeth wedi bod yn gyfrifol am ddiffyg amrywiaeth o fewn y clwb yn y gorffennol, ond nad yw hynny bellach yn wir.

Mae Gareth Williams wedi bod gerbron pwyllgor o aelodau seneddol yn San Steffan i drafod mater hiliaeth yn y byd criced.

“Mae’r ffigurau’n dangos, yn syml, fod hynny’n wir,” meddai am sefyllfa’r clwb yn y gorffennol.

Ond mae gan y clwb ddau chwaraewr o dras Asiaidd erbyn hyn, sef y troellwr llaw chwith Prem Sisodiya a chapten y tîm undydd, Kiran Carlson.

Mae’r Pwyllgor Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi bod yn clywed tystiolaeth gan y siroedd dosbarth cyntaf yn dilyn honiadau gan Azeem Rafiq, cyn-chwaraewr Swydd Efrog, oedd wedi cyhoeddi’i gyn-gyflogwyr o hiliaeth sefydliadol.

Yn 2020, fe wnaeth cyn-chwaraewyr Morgannwg, Mohsin Arif ac Imran Hassan, honiadau yn The Telegraph fod chwaraewyr gwyn yn cael eu ffafrio gan y sir yn y gorffennol, ond mae Mohsin Arif bellach wedi canmol y sir am fynd i’r afael â’r sefyllfa ac am gefnogi chwaraewyr o gefndiroedd lleiafrifol wrth iddyn nhw geisio chwarae’n broffesiynol.

Roedd Gareth Williams yn cael ei holi gan Kevin Brennan, yr Aelod Seneddol Llafur dros Orllewin Caerdydd, oedd wedi gofyn a oedd yna broblem yn y gorffennol oedd yn golygu nad oedd chwaraewyr o lleiafrifoedd ethnig yn cyrraedd y lefel sirol.

Ond dywedodd y cadeirydd fod Cynghrair Griced Ganol Wythnos Caerdydd “yn cael ei dominyddu gan chwaraewyr o dras Asiaidd Prydeinig” a’i fod yn tybio bod rhyw 80% o’r chwaraewyr o hyd o dras Asiaidd.

“Does gen i ddim amheuaeth o gwbl, yn hanesyddol, fod hiliaeth wedi bod yn y gamp hon yn gyffredinol, a dim amheuaeth yn benodol am Forgannwg,” meddai, gan gydnabod fod y sir wedi bod yn araf yn ymateb i’r broblem.

“Mae’n rhaid bod hynny’n wir oherwydd mae’r ffigurau’n dangos mai dyna sydd wedi digwydd.

“Dw i’n fodlon fy myd nad yw hynny’n wir bellach.”

Dywedodd fod y sir bellach yn buddsoddi mewn rhaglenni amrywiaeth ers rhoi trefn ar eu sefyllfa ariannol.

Mae gan y sir 11 o gyfarwyddwyr, a thri allan o’r chwe chyfarwyddwr annibynnol yn fenywod, a dau yn dod o gefndiroedd Asiaidd Prydeinig.

Cynllun gweithredu

Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wedi cyhoeddi cynllun gweithredu i fynd i’r afael â hiliaeth a chynhwysiant ar bob lefel o griced.

Dyma’r cam cyntaf yn y gyfres o gamau mae’r ECB wedi addo eu cymryd fel rhan o’r ymdrechion i ddileu hiliaeth o’r gamp.

Mae disgwyl diweddariad pellach ym mis Mawrth.

Mae disgwyl i’r awdurdodau criced ddyfeisio dull safonol o adrodd am hiliaeth, ymchwilio i honiadau ac ymateb i gwynion, honiadau a chwythu’r chwiban.

Bydd disgwyl hefyd y byddan nhw’n hybu amcanion y Comisiwn Annibynnol Ecwiti Mewn Criced drwy ymgysylltu ag ymchwiliadau ac argymhellion.

Bydd pawb sy’n gweithio yn y byd criced, gan gynnwys staff, gwirfoddolwyr, swyddogion ar lawr gwlad, dyfarnwyr, cyfarwyddwyr a hyfforddwyr, yn derbyn hyfforddiant parhaus ar ddulliau o wrthwynebu gwahaniaethu. Mae hyn yn cynnwys adolygiad o ddiwylliant yr ystafell newid ym mhob clwb a gwlad yng ngêm y dynion a’r merched cyn cyhoeddi adroddiad ym mis Medi.

Bydd rhaglen addysg yn cael ei rhoi ar waith ymhlith chwaraewyr a hyfforddwyr, gan fynd i’r afael ag unrhyw fylchau sy’n codi yn yr adolygiad o’r ystafell newid.

Bydd camau pwrpasol yn cael eu cymryd i helpu chwaraewyr o gefndiroedd lleiafrifol i gyrraedd y lefel uchaf, yn enwedig chwaraewyr o dras Asiaidd a’r rheiny o gefndiroedd difreintiedig – bydd hyn yn cynnwys adnabod chwaraewyr a’u sgowtio, rhaglenni addysg a rhaglenni cymorth i chwaraewyr o’r cefndiroedd hyn.

Bydd adolygiad llawn cyn tymor 2022 o’r camau disgyblu sydd yn eu lle i fynd i’r afael â chamymddwyn o fewn clybiau a thorfeydd mewn gemau proffesiynol, gan sicrhau bod clybiau’n groesawgar i bawb o bob ffydd a diwylliant, gan ddarparu cyfleusterau addas megis ystafelloedd aml-ffydd a pharthau di-alcohol.

Bydd rhaglenni addysg hefyd yn cael eu cyflwyno ar lawr gwlad er mwyn sicrhau bod chwaraewyr, gwirfoddolwyr a hyfforddwyr yn deall cynhwysiant ac amrywiaeth, a bydd ymrwymiad i sicrhau amrywiaeth ar fyrddau cyfarwyddwyr clybiau criced gyda’r nod o sicrhau bod 30% o aelodau’n fenywod ac o gefndiroedd lleiafrifol erbyn mis Ebrill.

Bydd disgwyl i glybiau ddefnyddio prosesau recriwtio tecach wrth benodi i swyddi, a bydd pob swyddog yn y gêm broffesiynol yn gorfod dilyn amcanion penodol fel rhan o reoli perfformiad.

Bydd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr yn cydweithio â’r elusen gwrth-hiliaeth Kick It Out i gwblhau ymchwil ac i nodi lle mae modd gwella’r sefyllfa – dyma’r tro cyntaf i’r elusen weithio y tu allan i’r byd pêl-droed, ac maen nhw’n cydweithio â Sky sy’n ariannu’r camau hyn.

Yng Nghymru, mae’r awdurdodau criced wedi bod yn cydweithio i gyflwyno gweithdai amrywiaeth, ac mae Criced Cymru a Morgannwg wedi bod yn ffurfio strategaethau ar y cyd yn unol â’r camau mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wedi eu rhoi ar waith.

 

 

Morgannwg yn ategu eu hymrwymiad i ddileu hiliaeth

Yn dilyn sgandal Swydd Efrog, mae’r sir griced Gymreig yn dweud nad ydyn nhw’n goddef hiliaeth na gwahaniaethu o unrhyw fath arall

Cyhuddo Clwb Criced Morgannwg o hiliaeth sefydliadol

Dau gyn-gricedwr y sir yn trafod eu profiadau o fethu torri trwodd i’r gêm dosbarth cyntaf