Llwyddodd Abertawe i sicrhau gêm gyfartal ddi-sgôr oddi cartref yn erbyn QPR neithiwr (nos Fawrth, 25 Ionawr).

Wrth wneud hynny daeth yr Elyrch a rhediad y tîm cartref – oedd wedi ennill gemau olynol yn eryn Coventry City, West Bromwich Albion, Birmingham City a Bristol City – i ben.

Mae’n debyg bod pwynt yr un yn ganlyniad teg, er i Abertawe sicrhau mwyafrif y meddiant, tra bod Joel Piroe wedi dod yn agos at sgorio.

Tarodd QPR y postyn hefyd cyn i gôl gan Michael Obafemi gael ei wrthod am gamsefyll yn ystod amser ychwanegol.

Cafodd Flynn Downes gerdyn coch i’r Elyrch yn ystod yr eiliadau olaf mewn ffracas a welodd ymosodwr QPR, Charlie Austin, yn cael cerdyn melyn.

Roedd Downes, 23, eisoes wedi derbyn cerdyn melyn am drosedd ar Albert Adomah.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Abertawe yn aros yn yr 17eg safle, tra bod QPR yn aros yn bedwerydd.

“Ni oedd y tîm gorau”

Dywedodd prif hyfforddwr Abertawe, Russell Martin: “Rwy’n falch o’r chwaraewyr.

“Roedden nhw’n dangos cymaint o ddewrder ar brydiau.

“Rwy’n credu mai ni oedd y tîm gorau, ond doedden ni ddim yn ddigon da yn nhraean olaf y cae.

“Ond o’n i jyst yn gofyn am ddewrder gan y bechgyn.

“Ble bynnag yr awn, rwyf am i’r cefnogwyr wybod beth mae’r tîm yn mynd i’w wneud a sut yr ydym am chwarae.”