Sgoriodd Ollie Palmer ar ei ymddangosiad cyntaf yn Wrecsam wrth i’w dîm newydd guro Grimsby 1-0 ar y Cae Ras neithiwr (25 Ionawr).

Mae Wrecsam wedi ennill dwy gêm yn olynol ac yn dal i fod yn chweched yng Nghynghrair Genedlaethol Vanarama tra bod Grimsby yn dal i fod yn 10fed.

Daeth Wrecsam yn agos at sgorio’r gôl agoriadol pan beniodd Aaron Hayden dafliad hir Ben Tozer heibio’r postyn.

Ond Ollie Palmer roddodd Wrecsam ar y blaen yn y 35ain munud wedi i Liam McAlinden chwipio’r bêl i mewn i’r bocs cyn i’r ymosodwr gafodd ei arwyddo gan AFC Wimbledon ddydd Llun (24 Ionawr) ddarganfod cefn y rhwyd.

Bu bron i Paul Mullin ddyblu mantais y tîm cartref bedwar munud i mewn i’r ail hanner ond fe wnaeth y golwr Max Crocombe arbediad da i wadu Wrecsam.

Parhaodd Grimsby i fygwth drwy gydol yr ail hanner, gyda Shaun Pearson a Luke Waterfall yn dod yn agos i unioni’r sgôr, ond fe wnaeth Rob Lainton ddau arbediad da.