Mae Russell Martin, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn gobeithio y bydd potensial ei dîm yn argyhoeddi perchnogion yr Elyrch i ddenu rhagor o chwaraewyr yn ystod y ffenest drosglwyddo.
Gwnaeth Cyrus Christie argraff yn ei ymddangosiad cyntaf i Abertawe, wrth i’r Elyrch gael gêm gyfartal 1-1 gyda Huddersfield, tra bod Andy Fisher yn eilydd heb ei ddefnyddio.
Ond mae Martin yn teimlo bod angen un neu ddau chwaraewr arall ar ei dîm y mis hwn, ac mae’n croesi ei fysedd y bydd mwy o wynebau newydd yn cyrraedd.
Mae’n edmygu chwaraewr canol cae MK Dons, Matt O’Riley, tra bod Abertawe hefyd yn chwilio am ymosodwr ar ôl caniatáu i Liam Cullen a Morgan Whittaker adael ar fenthyg.
“Mae wedi bod yn gyfnod rhwystredig. Rydym wedi bod mor agos at gwpl o bobol ac wedyn dyw e ddim yn digwydd am wahanol resymau,” meddai wrth BBC Radio Wales.
“Mae’r strategaeth rydym wedi’i chyflwyno yn gwneud synnwyr yn fy marn i, ac rwy’n gobeithio y bydd y perchnogion yn gweld perfformiadau fel hyn ac yn sylweddoli, gydag ychydig o help, y gallwn, efallai, gyflawni mwy y tymor hwn.
“Gobeithio y bydd hynny’n digwydd erbyn diwedd y ffenest drosglwyddo, [ond] bydd rhaid i ni weld.”