Mae enwau Roberto Martinez a Graham Potter, dau gyn-reolwr Clwb Pêl-droed Abertawe, wedi’u crybwyll yn y ras i olynu rheolwr nesaf Everton.

Daw hyn ar ôl i Rafa Benitez gael ei ddiswyddo wedi’r golled o 2-1 yn Norwich ddoe (dydd Sul, Ionawr 16), a hynny ar ôl llai na saith mis wrth y llyw.

Mae Everton bellach wedi colli naw gêm allan o 12, ac maen nhw chwe phwynt yn unig uwchlaw safleoedd y gwymp.

Yn ôl Benitez, mae anafiadau wedi cyfrannu’n helaeth at drafferthion y clwb y tymor hwn.

Dangosodd y cefnogwyr eu dicter wedi’r golled ddiweddaraf, gydag un ohonyn nhw’n llwyddo i gael mynediad i’r cae mewn ymgais i fynd at Benitez i leisio’i farn.

Cafodd baneri eu gweld yn y stadiwm yn mynegi siom y cefnogwyr gan alw ar iddo ymddiswyddo.

Mae ei ddiswyddiad yn dod â chyfnod cythryblus y rheolwr i ben.

Cafodd ei benodi fis Mehefin y llynedd, ac roedd cryn ddicter gan ei fod wedi rheoli Lerpwl yn y gorffennol.

Yr ymgeiswyr posib

Mae Everton bellach yn chwilio am eu pumed rheolwr mewn tair blynedd a hanner.

Wayne Rooney, y cyn-chwaraewr lleol, yw’r ffefryn cynnar, ac mae’n ymuno â rhestr sy’n cynnwys Duncan Ferguson, un arall o gyn-chwaraewyr y clwb, Frank Lampard, Martinez a Potter.

Chwaraeodd Rooney 117 o weithiau dros ddau gyfnod gyda’r clwb, gan chwarae am y tro cyntaf yn 16 oed.

Dychwelodd e ar ôl 13 o flynyddoedd gyda Manchester United, lle enillodd e’r Uwch Gynghrair bum gwaith, Cynghrair y Pencampwyr, Cynghrair Europa, Cwpan FA Lloegr a Chwpan y Gynghrair dair gwaith.

Fe oedd prif sgoriwr Manchester United a Lloegr adeg ei ymddeoliad, ac mae e bellach yn rheolwr ar Derby, clwb sydd wedi wynebu trafferthion ariannol ac wedi colli 21 o bwyntiau o ganlyniad.

Ond maen nhw wedi ennill wyth gêm y tymor hwn, gan ddringo oddi ar waelod tabl y Bencampwriaeth ar ôl curo Sheffield United dros y penwythnos.

Mae Brighton, tîm Graham Potter, yn nawfed yn yr Uwch Gynghrair, tra bod Gwlad Belg, tîm presennol Martinez, wedi bod ar frig rhestr detholion FIFA ers tair blynedd.